2004 Rhif 2506 (Cy.224)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys at ddibenion ariannu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol o dan sylw;

  • ystyr “blwyddyn ariannol o dan sylw” (“financial year in question”) yw'r flwyddyn ariannol y mae cyfrannau cyllideb ysgolion a gynhelir yn cael eu penderfynu ar eu cyfer;

  • ystyr “y Cyngor Cenedlaethol” (“the National Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant3;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19964);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 20005;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20026;

  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 19997;

  • ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 20038);

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir.

2

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.

3

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).

4

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.

5

Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).

6

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at wahardd disgybl yn barhaol yn gyfeiriad at waharddiad parhaol y disgybl fel y'i diffinnir o dro i dro at ddibenion adran 494 o Ddeddf 19969.

7

Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i'r geiriau neu'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir isod yn y paragraff hwn yr ystyron a roddwyd iddynt gan y darpariaethau a bennir —

  • addysg feithrin (nursery education):

  • adran 117 o Ddeddf 1998;

  • anghenion addysgol arbennig (special educational needs):

  • adran 312(1) o Ddeddf 1996;

  • blwyddyn ariannol (financial year):

  • adran 579(1) o Ddeddf 1996;

  • blwyddyn ysgol (school year):

  • adran 579(1) o Ddeddf 199610;

  • cyfnod allweddol (key stage):

  • adran 103 o Ddeddf 2002;

  • cyfran o'r gyllideb (budget share):

  • adran 47 (1) o Ddeddf 1998;

  • cyllideb ddirprwyedig (delegated budget):

  • adran 49(7) o Ddeddf 1998;

  • cyllideb ysgolion (schools budget):

  • adran 45A(2) o Ddeddf 1998;

  • cyllideb ysgolion unigol (individual schools budget):

  • adran 45A(3) o Ddeddf 199811;

  • fformwla (formula):

  • rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn;

  • ysgol feithrin (nursery school):

  • adran 6(1) o Ddeddf 199612.

8

Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn a rifwyd felly ac mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff a rifwyd felly yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.

Dirymu a darpariaethau trosiannol3

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, dirymir Rheoliadau 1999 (i'r graddau nad ydynt wedi'u dirymu eisoes13), Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 200014, Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 200115, Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 200216) a Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 200317 o 1 Ebrill 2005 ymlaen.

2

Er gwaethaf paragraff (1), caniateir i gyfran cyllideb ysgol gael ei hailbenderfynu o dan Reoliadau 1999, yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2005, os yw'r ailbenderfyniad hwnnw yn gwneud darpariaeth ar gyfer —

a

disgyblion a waharddwyd yn barhaol neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad parhaol; neu

b

cywiro gwallau, p'un ai mewn cyfrif neu ddata, o dan unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliadau 1999.

3

Er gwaethaf paragraff (1), mae Rhan IV (Cynlluniau) o Reoliadau 1999 ac Atodlen 5 iddynt yn parhau mewn grym.

Dyrannu cyllideb ysgolion unigol4

Rhaid i awdurdod addysg lleol ddyrannu ym mhob blwyddyn ariannol, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn, y cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol am y flwyddyn ariannol honno fel cyfrannau cyllideb ysgolion y mae'n eu cynnal.

Amseriad penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau cyllideb5

1

Rhaid i swm cyfran cyllideb ysgol am flwyddyn ariannol gael ei benderfynu i gychwyn gan yr awdurdod addysg lleol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno.

2

Ar y cychwyn nid oes rhaid i awdurdod addysg lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau blwyddyn ariannol, ac yn lle hynny caniateir iddo ddal ei afael ar swm ar gyfer ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau ond rhaid i'r swm hwnnw gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw neu gael ei ddosbarthu i ysgolion yn unol â gofynion rheoliad 18(4) cyn diwedd y flwyddyn ariannol honno.

Ymgynghori6

1

Yn ychwanegol at ymgynghori â'r fforwm ysgolion ar gyfer ei ardal18, rhaid i awdurdod addysg lleol ymgynghori â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol y mae'n ei chynnal am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf a gymerwyd i ystyriaeth, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd yn ei fformwla o dan Reoliadau 1999 neu'r Rheoliadau hyn yn y flwyddyn ariannol flaenorol (gan gynnwys unrhyw ffactorau, meini prawf, dulliau, egwyddorion neu reolau newydd).

2

Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i newidiadau sy'n cael eu gwneud yn unol â rheoliadau 5(2), 15, 18(3) neu 19.

3

Rhaid bod ymgynghori o dan y rheoliad hwn yn digwydd mewn digon o amser i ganiatáu i'r canlyniad gael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu fformwla'r awdurdod ac wrth wneud penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau cyllideb ysgolion cyn dechrau'r flwyddyn ariannol o dan sylw.

4

Rhaid i awdurdod addysg lleol hysbysu pob un o'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy o ganlyniad yr ymgynghori.

5

Ceir bodloni'r gofyniad i ymgynghori ym mharagraff (1), ynglŷn â newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005, drwy ymgynghoriad sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2004 cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Y fformwla ar gyfer penderfynu cyfrannau cyllideb7

1

Rhaid i awdurdod addysg lleol benderfynu cyn dechrau blwyddyn ariannol, ac ar ôl yr ymgynghori y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 6, y fformwla y byddant yn ei defnyddio i benderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol honno gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i awdurdod addysg lleol roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol i fformwla o'r fath fod yn syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy, yn rhagweladwy o ran ei heffaith ac wedi'i mynegi'n glir.

3

Ni chaiff awdurdod addysg lleol ddefnyddio ffactorau na meini prawf yn ei fformwla sy'n cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw swm a ddyrannwyd i'r ysgol o unrhyw grant a dalwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Cenedlaethol.

4

Yn ddarostyngedig i reoliad 22 (trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), rhaid i awdurdod addysg lleol ddefnyddio'r fformwla a benderfynwyd o dan baragraff (1) ym mhob penderfyniad ac ailbenderfyniad ar gyfrannau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

Niferoedd disgyblion8

1

Wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac ysgolion meithrin, rhaid i awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r niferoedd hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8).

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys—

a

disgyblion y mae grant yn daladwy ar eu cyfer i'r awdurdod gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 36 o Ddeddf 2000;

b

disgyblion mewn lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu (ac eithrio pan fo'r awdurdod addysg lleol yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn o dan reoliad 10 mewn perthynas â phlant mewn dosbarthiadau meithrin) ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin.

3

Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod —

a

cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol o dan sylw; a

b

yn y flwyddyn ysgol y mae 1 Ebrill, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn dod ynddi.

4

Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna —

a

rhaid i un o'r dyddiadau hynny fodloni paragraff (3);

b

o ran y dyddiad arall neu'r dyddiadau eraill —

i

ni chaiff unrhyw ddyddiad fod yn gynt na dechrau'r flwyddyn ysgol y mae 1 Ebrill, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn dod ynddi, a

ii

caiff yr awdurdod benderfynu dyddiad neu ddyddiadau sydd yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny.

5

Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i ddisgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn eu cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).

6

Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla —

a

nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion arbennig hynny; neu

b

nifer y disgyblion yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd,

ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod (a'r cyfrannau hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8)).

7

Os yw'r awdurdod yn amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig mewn ysgol yn unol â pharagraff (4)(b), rhaid iddo ymgynghori â phennaeth yr ysgol.

8

Caiff awdurdod addysg lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol —

a

oedran, gan gynnwys pwysoliad yn ôl cyfnod allweddol neu grŵ p blwyddyn;

b

a yw disgybl yn cael addysg feithrin gan ysgol;

c

yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hunion oedran wrth gael eu derbyn i'r ysgol;

ch

yn achos disgyblion o dan bum oed, yr oriau y maent yn bresennol;

d

anghenion addysgol arbennig;

dd

a yw disgybl mewn ysgol hefyd yn mynychu sefydliad o fewn y sector addysg bellach; ac

e

a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

9

Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

Niferoedd Disgyblion: Cofrestru Deuol9

Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 199619, yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl amser-llawn ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformwla.

Lleoedd10

Wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer —

a

ysgolion arbennig;

b

ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

c

ysgolion cynradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarth meithrin; neu

ch

ysgolion meithrin a gynhelir,

caiff awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla nifer y lleoedd y mae'n dymuno eu hariannu yn yr ysgolion arbennig hynny, yn achos paragraff (a), neu nifer y lleoedd ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn achos paragraffau (b), (c) ac (ch) ac ym mhob achos caiff gymryd i ystyriaeth yr anghenion addysgol arbennig o dan sylw.

Ysgolion o ddisgrifiad penodol11

Pan fo awdurdod addysg lleol yn didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir o ddisgrifiad penodol, rhaid iddynt gynnwys ffactorau neu feini prawf yn eu fformwla ar gyfer y gwariant cynlluniedig hwnnw mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwnnw.

Cyllid gwahaniaethol12

Rhaid i awdurdod addysg lleol beidio â defnyddio yn ei fformwla unrhyw ffactorau neu feini prawf sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori o dan Ddeddf 1998 ac eithrio lle bo gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau yn cyfiawnhau gwahaniaethu o'r fath.

Ffactorau neu feini prawf ychwanegol13

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 11 a 12, caiff awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla, fel y mae'n credu ei bod yn briodol, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen.

2

Rhaid i awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.

3

Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o'r Atodlen, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.

Cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol14

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 16 (Addasiadau i gyfrannau cyllideb), rhaid i'r gyfran o'r gyllideb am flwyddyn ariannol ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol gynnwys swm ('y Swm') ar gyfer disyblion yr ysgol honno sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

2

Rhaid i'r Swm gynnwys, ar sail net —

a

dyraniad gan yr awdurdod addysg lleol ar gyfer darpariaeth yr ysgol honno i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol am y flwyddyn ariannol o dan sylw yn unol ag amodau'r grant sy'n daladwy i'r awdurdod addysg lleol gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 36 o Ddeddf 2000 (“y Grant”);

b

unrhyw swm y mae'r awdurdod addysg lleol yn ei ddarparu ar gyfer addysg disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

3

I'r graddau nad yw'r Swm yn ddarostyngedig i'r amodau yn y Grant, rhaid i awdurdod addysg lleol, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ddefnyddio ffactor sy'n dyrannu cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

Diwygio Grant y Cyngor Cenedlaethol15

Rhaid i gyfran cyllideb ysgol uwchradd neu ysgol arbennig am y flwyddyn ariannol o dan sylw gael ei hailbenderfynu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol honno yn unol â hysbysiad ysgrifenedig gan y Cyngor Cenedlaethol o ddiwygiad i'r grant y penderfynwyd arno'n wreiddiol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

Addasu cyfran o'r gyllideb16

1

I'r graddau yr oedd cyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol —

a

wedi'i phenderfynu yn ôl amcangyfrif o nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddyddiad neu ddyddiadau penodol; a

b

bod gwahaniaethau rhwng nifer amcangyfrifedig y disgyblion ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny a nifer gwirioneddol y disgyblion yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny heb gael eu cymryd i ystyriaeth mewn ailbenderfyniad ar gyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol,

rhaid i'r awdurdod addysg lleol benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol honno am y flwyddyn ariannol o dan sylw yn y fath fodd ag i gymryd y gwahaniaethau hynny i ystyriaeth.

2

Caiff awdurdod addysg lleol benderfynu cyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol o dan sylw er mwyn cymryd i ystyriaeth unrhyw newid arall yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol i'r data a ddefnyddiwyd i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn honno, os na chymerwyd y newidiadau hynny i ystyriaeth wrth ailbenderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol.

3

Caiff awdurdod addysg lleol addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol —

a

unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol sy'n deillio o wahardd disgybl yn barhaol o'r ysgol neu dderbyn i'r ysgol disgybl a waharddwyd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir; neu

b

unrhyw gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol flaenorol sy'n codi o gynnydd mewn niferoedd disgyblion yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

4

Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys yn ei fformwla ffactorau neu feini prawf sy'n bodloni gofynion y rheoliad hwn.

Ad-drefnu ysgol17

1

Yn achos ysgol a gynhelir sydd —

a

yn ysgol newydd y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 2(2);

b

yn ysgol (ac eithrio ysgol newydd) nad yw cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan unrhyw ddeddfiad wedi'u gweithredu'n llawn;

c

yn ysgol sy'n destun cynigion ar gyfer newid rhagnodedig o dan Bennod II o Ran II o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 200020;

ch

yn ysgol sy'n destun newid sylweddol i'w chymeriad, ehangiad sylweddol o'i mangre neu drosglwyddiad i safle newydd o dan Ddeddf 1996; neu

d

yn ysgol feithrin a gynhelir sydd i'w chau yn y flwyddyn ariannol o dan sylw,

rhaid i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, mewn unrhyw flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae ysgol yn derbyn disgyblion yn gyntaf ynddi, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran gyllideb.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod addysg lleol—

a

y nifer hwnnw o ddisgyblion a nodwyd, pan gafodd cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol eu cyhoeddi, fel y nifer o ddisgyblion i'w derbyn i bob grŵ p oedran pan gafodd y cynigion eu gweithredu'n llawn; neu

b

os na nodwyd unrhyw nifer o'r fath, unrhyw nifer a benderfynir gan yr awdurdod.

Ailbenderfynu cyfrannau cyllideb18

1

Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei alluogi i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol yn ystod blwyddyn ariannol os yw'n dymuno cymryd i ystyriaeth yn y modd hwn (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) —

a

newidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn nifer y disgyblion cofrestredig neu mewn amcangyfrifon o'r nifer (gan gynnwys rhoi niferoedd gwirioneddol yn lle amcangyfrifon) yn yr ysgol a ddefnyddiwyd i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol yn unol â rheoliad 8(1) neu (3) ac eithrio mewn achosion lle cafodd niferoedd disgyblion eu pwysoli yn ôl anghenion addysgol arbennig;

b

newidiadau eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn y data a ddefnyddiwyd i benderfynu'r gyfran o'r gyllideb; ac

c

newidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn swm cyllideb ysgolion unigol yr awdurdod.

2

Rhaid i awdurdod addysg lleol nodi yn ei fformwla y ffactorau neu'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio i ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn unol â pharagraff (1) er mwyn dyrannu'r gwariant cynlluniedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 30 o Atodlen 2 i Reoliadau 200321.

3

Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla i'w alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu neu ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol —

a

unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol yn unol â rheoliad 19 (Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad); neu

b

unrhyw gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chynnydd sylweddol yn niferoedd y disgyblion sy'n cael eu cyllido drwy'r gwariant cynlluniedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 30 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003.

4

Pan fo awdurdod addysg lleol yn bwriadu dal ei afael ar ran o'i gyllideb ysgolion unigol yn unol â rheoliad 5(2) ar ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol o dan sylw er mwyn dosbarthu i ysgolion y gweddill sydd heb ei ddyrannu o unrhyw swm y dalwyd gafael arno felly ar sail niferoedd disgyblion yn unol â rheoliad 8(1) neu (6).

Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad19

1

Pan fo disgybl, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol honno yn unol â pharagraff (2).

2

Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w gostwng â'r swm A x (B/52) ac —

  • A yw'r swm, yn y flwyddyn ariannol y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddi (fel y'i diffinnir o bryd i'w gilydd at ddibenion adran 494 o Ddeddf 199622 (“y dyddiad perthnasol”)), a benderfynwyd gan yr awdurdod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac sydd i'w briodoli am y flwyddyn ariannol lawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod:

  • At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformwla'r awdurdod neu reoliad 22 drwy ystyried niferoedd disgyblion yn hytrach na nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor neu faen prawf arall nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a

  • B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:

  • OND os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵ p oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.

3

Pan fo disgybl yn cael ei dderbyn yn ystod blwyddyn ariannol i ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (“yr ysgol sy'n derbyn”) a bod y disgybl hwnnw wedi'i wahardd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir yn y flwyddyn ariannol honno rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).

4

Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D x (E/F) a —

D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran cyllideb yr ysgol y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu'r swm y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;

  • E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;

  • F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.

Canran o gyllid “sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion”20

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau bod ei fformwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol —

a

yn unol â rheoliad 8(1) neu (6);

b

yn unol ag unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill gan ddefnyddio niferoedd disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid i ddisgyblion o'r un oedran ni waeth beth fo natur yr ysgol y maent yn mynd iddi;

c

i leoedd mewn ysgolion cynradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin;

ch

ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5 y cant yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol;

d

i leoedd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

dd

ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan fo cyllid ar gyfer disgyblion o'r fath yn ffurfio rhan o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

2

At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol yr awdurdod addysg lleol, gyfrannau cyllideb ysgolion sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, cyfrannau cyllideb ysgolion arbennig nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y dalwyd gafael arni yn unol â rheoliad 5(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.

Cywiro gwallau21

Caiff awdurdod addysg lleol ailbenderfynu ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol honno er mwyn cywiro gwall mewn penderfyniad neu ailbenderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n codi o wall ynglŷn â nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol neu fel arall.

Trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol22

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'n ymddangos ei bod yn hwylus i wneud hynny, awdurdodi awdurdod addysg lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau cyllideb, i'r graddau y bydd yn eu pennu, yn unol â threfniadau a gymeradwywyd ganddo yn lle'r trefniadau y darparwyd ar eu cyfer mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199823

D. Elis-ThomasLlywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

YR ATODLENFFACTORAU NEU FEINI PRAWF YCHWANEGOL Y CANIATEIR EU CYMRYD I YSTYRIAETH MEWN FFORMWLA AWDURDOD ADDYSG LLEOL O DAN REOLIAD 13

Rheoliad 13

Oni nodir yn wahanol caniateir i'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir isod yn yr Atodlen hon gael eu cymryd i ystyriaeth gan awdurdod addysg lleol yn ei fformwla ar sail y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig.

Pan fo awdurdod addysg lleol yn cymryd i ystyriaeth mewn blwyddyn ariannol ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, ffactorau neu feini prawf a gymerwyd i ystyriaeth yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caniateir iddo wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol y mae'n credu ei bod yn rhesymol.

1

Anghenion addysgol arbennig disgyblion a benderfynwyd mewn ffordd y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol fel modd i asesu anghenion o'r fath.

2

Disgyblion nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

3

Trosiant disgyblion ac eithrio fel rhan o'r broses derbyniadau cyffredinol mewn ysgol.

4

I ba raddau y mae'r awdurdod yn talu costau trefniadau derbyn mewn ysgol ac eithrio o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

5

Maint a chyflwr adeiladau a thiroedd ysgol o'u cymharu â rhai ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfeydd a gyhoeddir gan yr awdurdod sy'n adlewyrchu (i'r graddau y mae hynny'n briodol) ddyletswyddau statudol cyrff llywodraethu o ran mangreoedd ysgol a'u cymhwyster i gael grant gan y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw adran o'r llywodraeth.

6

Ysgol a chanddi safle wedi'i rannu: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â meini prawf a gyhoeddir gan yr awdurdod.

7

Cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, a geir mewn rhai ysgolion yn unig.

8

Ardrethi sy'n daladwy am fangre pob ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

9

Y ffioedd am ddŵr a charthffosiaeth (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

10

Defnydd ysgolion ar ynni.

11

Y rhent sy'n daladwy am fangre ysgol neu daliadau am ddefnydd ysgol ar gyfleusterau nad ydynt wedi'u meddiannu gan yr ysgol honno'n unig (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

12

Glanhau mangre ysgol.

13

Cludiant yn ôl ac ymlaen i weithgareddau y tu allan i fangre ysgol sy'n ffurfio rhan o gwricwlwm yr ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

14

Llogi cyfreusterau y tu allan i fangre ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

15

Mewn achosion lle mae swm ar gyfer yswiriant i'w gynnwys yng nghyfran cyllideb yr ysgol —

a

pan fo'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o wariant cynlluniedig yr awdurdod ar yswiriant; neu,

b

pan nad yw'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i wario pe bai wedi yswirio,

i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

16

Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat fel y diffinnir “private finance transaction” yn rheoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 199724 (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

17

Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod II o Ran II o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb (o fewn ystyr “budget share” yn Neddf 1996 neu 1998) neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y flwyddyn ariannol fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.

18

A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw.

19

Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.

20

Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

21

Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 200225 neu ddiogelu cyflogau eraill.

22

Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 122 o Ddeddf 200226 (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

23

Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.

24

Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.

25

Ysgolion y câi eu cyfrannau cyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

26

Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

27

Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

28

Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

29

Effaith trethi ar ysgolion.

30

Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.

31

Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

32

Mynychder Athrawon Newydd Gymhwyso.

33

Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y flwyddyn ariannol o dan sylw.

34

Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.

35

Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 199827: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwaraint a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.

36

Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 198828 neu mewn unrhyw drefniadau ar gyfer cymorth ariannol a roddwyd yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safonau ysgol yn cael eu gwella drwy leihau meintiau dosbarthiadau.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae cyllideb ysgolion unigol awdurdod addysg lleol i'w rhannu rhwng yr ysgolion y mae'n eu cynnal ar ffurf cyfrannau cyllideb ar gyfer pob ysgol. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu'r sail y caiff awdurdod addysg lleol ei defnyddio, am unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005, i benderfynu'r swm o'i gyllideb ysgolion unigol sydd i'w ddyrannu i bob ysgol fel ei chyfran o'r gyllideb am flwyddyn ariannol.

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol yn rheoliad 3, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ar 1 Ebrill 2005 Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (i'r graddau nad ydynt wedi'u dirymu o'r blaen) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000; Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001; Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2003.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol am flwyddyn ariannol fel cyfrannau cyllideb ysgolion y mae'n eu cynnal.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r penderfyniad cychwynnol ar gyfran cyllideb ysgol gael ei wneud cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y bydd yn gymwys ynddi. Caniateir i awdurdod addysg lleol ddal ei afael ar swm o'r gyllideb ysgolion unigol er mwyn ailbenderfynu'r gyfran honno neu gywiro gwallau.

Mae rheoliad 6 yn nodi pryd ac â phwy y mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol ymgynghori ynglŷn ag unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf neu'r dulliau, egwyddorion a rheolau a oedd wedi'u mabwysiadau yn eu fformwla.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol benderfynu'r fformwla sydd i'w defnyddio i benderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn y flwyddyn ariannol o ystyried y ffactorau, y meini prawf a'r gofynion yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 8 yn disgrifio o dan ba amgylchiadau y mae rhaid i awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla niferoedd y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion. Nid yw'r gofyniad yn cynnwys disgyblion dros oedran ysgol gorfodol na phlant mewn lleoedd sydd wedi'u cadw ar gyfer anghenion addysgol arbennig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un ysgol.

Mae rheoliad 10 yn galluogi awdurdod addysg lleol i wneud darpariaethau yn ei fformwla ynglŷn â phenderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion arbennig ac ysgolion â lleoedd sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysg arbennig.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla ar gyfer didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion o ddisgrifiad penodol.

Mae rheoliad 12 yn rhagwahardd awdurdod addysg lleol rhag gwneud darpariaeth yn ei fformwla sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori ac eithrio pan fo'n gyfiawn i wneud hynny oherwydd gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau.

Mae rheoliad 13 yn galluogi awdurdod addysg lleol o dan amgylchiadau penodedig i gymryd i ystyriaeth y ffactorau neu'r meini prawf sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion. Mae'n ofynnol hefyd i awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla ar gyfer penderfynu cyfrannau cyllideb ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion.

Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyllido disgyblion dros oedran ysgol gorfodol. Wrth ddarparu cyfrannau cyllideb mae'n ofynnol i awdurdod addysg lleol gynnwys swm a ddyrannwyd yn unol ag amodau'r grant sy'n daladwy gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol uwchradd pan fo'r Cyngor Cenedlaethol yn hysbysu o ddiwygiad i'r grant a benderfynwyd o'r blaen.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol addasu cyfrannau cyllideb er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau yn y niferoedd o ddisgyblion cofrestredig a newid mewn data eraill yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Rhaid i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu ofynion yn ei fformwla i fodloni gofynion y rheoliad.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla i'w alluogi i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo ad-drefniad penodedig o'r ysgol wedi digwydd neu pan fydd yn digwydd.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol os yw'n dymuno cymryd i ystyriaeth newidiadau penodedig i nifer y disgyblion a newidiadau eraill.

Mae rheoliad 19 yn darparu fformwlâu sydd i'w defnyddio i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo disgybl wedi'i wahardd yn barhaol o ysgol.

Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol sicrhau wrth benderfynu cyfrannau cyllideb fod ei fformwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau penodedig.

Mae rheoliad 21 yn galluogi awdurdod addysg lleol i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol am y flwyddyn ariannol honno er mwyn cywiro gwall.

Mae rheoliad 22 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i awdurdodi'r awdurdod addysg lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau cyllideb yn unol â threfniadau cymeradwy a fyddai'n disodli gofynion y Rheoliadau.