Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004.

(2Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005 yn unig.

(3Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ac mae “llywodraethwr” (“governor”) yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro;

mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;

dehonglir “cyllideb ddiprwyedig” yn unol â “delegated budget” yn adran 49(7) o Ddeddf 1998;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (sut bynnag y caiff ei eirio) yn cynnwys y canlynol yn unig, sef ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig, a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgol o'r fath y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan yr awdurdod ac y mae ganddi gorff llywodraethu dros dro y gwnaed y trefniadau ar gyfer ei ffurfio gan yr awdurdod gan gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodwyd arno gan adran 44(1)(2) o Ddeddf 1998 neu adran 34(1) o Ddeddf 2002(3)).

Dirymu

3.  Dirymir rheoliadau 25 i 28 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 ac Atodlen 3 iddynt(4) ar 1 Ebrill 2005.

Yr hyn sy'n ofynnol i'w gynnwys yn y cynlluniau

4.  Rhaid i gynllun a baratoir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y nodir hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau yma.

Dull cyhoeddi

5.  At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (y dull a ragnodir i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw i rym ac yn yr amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 6 —

(a)drwy roi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)drwy drefnu bod copi ar gael i gyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl —

(i)ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a

(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod ac sydd ar gael i'r cyhoedd.

Amgylchiadau ychwanegol pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau

6.  At ddibenion paragraff 1(7)(b) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (achlysuron a ragnodwyd pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw unrhyw ddiwygiad ohono i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2004