Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004.
(2)
Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005 yn unig.
(3)
Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn —
mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ac mae “llywodraethwr” (“governor”) yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro;
mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;
dehonglir “cyllideb ddiprwyedig” yn unol â “delegated budget” yn adran 49(7) o Ddeddf 1998;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2)
Dirymu3.
Yr hyn sy'n ofynnol i'w gynnwys yn y cynlluniau4.
Rhaid i gynllun a baratoir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y nodir hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau yma.
Dull cyhoeddi5.
At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (y dull a ragnodir i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw i rym ac yn yr amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 6 —
(a)
drwy roi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b)
drwy drefnu bod copi ar gael i gyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl —
(i)
ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a
(ii)
ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod ac sydd ar gael i'r cyhoedd.
Amgylchiadau ychwanegol pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau6.
At ddibenion paragraff 1(7)(b) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (achlysuron a ragnodwyd pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau) rhaid i'r awdurdod addysg lleol o dan sylw gyhoeddi cynllun pan ddaw unrhyw ddiwygiad ohono i rym.
YR ATODLENCYNNWYS Y CYNLLUNIAU
Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, y mae angen i'r awdurdod addysg lleol ymdrin â hwy yn ei gynllun yw:
1.
Cario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall y gwargedau a'r diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion.
2.
Symiau y gellir eu tynnu yn erbyn cyfrannau cyllideb ysgolion.
3.
Symiau a gafodd ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.
4.
Gosod amodau gan neu o dan y cynllun y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy mewn perthynas â rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y mae'r awdurdod yn trefnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau a ragnodwyd gan reolau a gweithdrefnau ariannol.
5.
Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.
6.
Talu llogau gan yr awdurdod neu iddo.
7.
Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a phan drefnir pa ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.
8.
Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.
9.
10.
Y defnydd ar gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.
11.
Benthyca gan gyrff llywodraethu.
12.
Trefniadau bancio y caiff cyrff llywodraethu eu gwneud.
13.
Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.
14.
15.
Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.
16.
Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu ac iddo.
17.
Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.
18.
Cynlluniau gwario corff llywodraethu.
19.
Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud i warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran cyllideb yr ysgol neu £10,000 p'un bynnag sydd fwyaf.
20.
Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.
21.
Yswiriant.
22.
23.
Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.
24.
Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.
25.
Prydau ysgol.
26.
At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu wedduster ariannol yn yr ysgol a sut y dylid ymdrin â chwynion o'r fath.
27.
Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵ er a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.
28.
Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.
Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n disodli darpariaethau cyfatebol Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 a ddirymir) yn gwneud darpariaeth o ran y cynlluniau y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n ymwneud â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion a gynhelir ganddynt.
Ar wahân i ddarpariaeth newydd sy'n galluogi awdurdodau addysg lleol gyhoeddi eu cynlluniau ar eu gwefannau yn hytrach na threfnu eu bod ar gael yn yr ysgolion mae'r Rheoliadau yn ailadrodd Rheoliadau 1999.
Mae Rheoliad 4 a'r Atodlen yn pennu materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn y cynlluniau. Mae rheoliad 5 yn pennu'r dull y mae'n rhaid i gynlluniau gael eu cyhoeddi ar y dechrau ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi yn yr un dull os diwygir hwy.