Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 252 (Cy.27) (C.9)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

4 Chwefror 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y Diwrnod Penodedig

2.  7 Chwefror 2004 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —

(a)adran 2(6) (diffiniadau sylfaenol);

(b)adrannau 4(6) a (7), 9 i 11, 12(1) i (3), 27(3), 53(1) i (3), 54, 56(1) a (3), 57(6), 59, 63 i 65 a 98;

(c)at ddibenion gwneud rheoliadau, adrannau 4(1)(b) a (5), 57(5), 58(2) a (3), 60(2) a (4) a 61(5)(c) a 62(7)(c);

(ch)paragraffau 3 a 5 o Atodlen 4, ac adran 139(2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r Gorchymyn yn dwyn darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 7 Chwefror 2004 —

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 2(6), (7) ac (8) (yn rhannol), o ran Lloegr6 Hydref 20032003/366 (C.24)
Adran 2(7) ac (8) (yn rhannol), o ran Cymru28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Adran 4(6) a (7) (yn rhannol), o ran Lloegr6 Hydref 20032003/366 (C.24)
Adran 16 o ran Cymru29 Ionawr 20032003/181 (Cy.31) (C.9)
Adran 16 o ran Lloegr30 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Adran 87(1)(b) a (4)1 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Adran 1111 Rhagfyr 20032003/3079 (C.117)
Adran 119 (yn rhannol)30 Ionawr 20042003/3079 (C.117)
Adran 1191 Ebrill 20042003/3079 (C.117)
Adran 1351 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Adran 139(1) yn rhannol o ran Gogledd Iwerddon3 Chwefror 20032003/288 (C.14)
Yn rhannol, o ran Lloegr25 Chwefror 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol, o ran Lloegr30 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol, o ran Lloegr28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Adran 139(2) yn rhannol3 Chwefror 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol25 Chwefror 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol1 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol1 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Yn rhannol, o ran Lloegr6 Hydref 20032003/366 (C.24)
Adran 139(3) yn rhannol28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Atodlen 3
Paragraff 61 Rhagfyr 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 71 Rhagfyr 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 533 Chwefror 20032003/288 (C.14)
Paragraff 105 yn rhannol, o ran Lloegr30 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Paragraff 105 yn rhannol, o ran Cymru28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 106 yn rhannol o ran Lloegr30 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Paragraff 106 yn rhannol o ran Cymru28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 110 yn rhannol, o ran Lloegr30 Ebrill 20032003/366 (C.24)
Paragraff 110 yn rhannol, o ran Cymru28 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 11828 Tachwedd 20032003/3079 (C.117)
Atodlen 4
Paragraff 3 o ran Lloegr6 Hydref 20032003/366 (C.24)
Paragraff 4(1)3 Chwefror 20032003/288 (C.14)
Paragraff 4(2)25 Chwefror 20032003/366 (C.24)
Paragraff 5 yn rhannol, o ran Lloegr1 Rhagfyr 20032003/3079 (C.117)
Paragraff 5 yn rhannol, o ran Lloegr1 Ebrill 20042003/3079 (C.117)
Paragraff 101 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Paragraff 111 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Paragraff 12 (yn rhannol)1 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Paragraff 131 Mehefin 20032003/366 (C.24)
Paragraff 141 Mehefin 20032003/366 (C.24)
(1)

2002 p.38. Mae'r pŵ er yn arferadwy gan y Gweinidog priodol a ddiffinnir yn adran 144(1) o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.