Offerynnau Statudol Cymru
2004 Rhif 252 (Cy.27) (C.9)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
4 Chwefror 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y Diwrnod Penodedig
2. 7 Chwefror 2004 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
(a)adran 2(6) (diffiniadau sylfaenol);
(b)adrannau 4(6) a (7), 9 i 11, 12(1) i (3), 27(3), 53(1) i (3), 54, 56(1) a (3), 57(6), 59, 63 i 65 a 98;
(c)at ddibenion gwneud rheoliadau, adrannau 4(1)(b) a (5), 57(5), 58(2) a (3), 60(2) a (4) a 61(5)(c) a 62(7)(c);
(ch)paragraffau 3 a 5 o Atodlen 4, ac adran 139(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Chwefror 2004
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Ddeddf”) ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Mae'r Gorchymyn yn dwyn darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 7 Chwefror 2004 —
adrannau 2(6) a 65, sy'n ddarpariaethau dehongli;
pwerau gwneud rheoliadau yn adrannau 4(6) a (7), 9 i 11, 12(1) i (3), 27(3), 53(1) i (3), 54, 56(1) a (3), 57(6), 59, 63, 64 a 98;
at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig, adrannau 4(1)(b) a (5), 57(5), 58(2) a (3), 60(2) a (4), 61(5)(c) a 62(7)(c);
paragraffau 3 (gwasanaethau cymorth mabwysiadu) a 5 (mecanwaith adolygu annibynnol) o Atodlen 4.
Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 2(6), (7) ac (8) (yn rhannol), o ran Lloegr | 6 Hydref 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 2(7) ac (8) (yn rhannol), o ran Cymru | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Adran 4(6) a (7) (yn rhannol), o ran Lloegr | 6 Hydref 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 16 o ran Cymru | 29 Ionawr 2003 | 2003/181 (Cy.31) (C.9) |
Adran 16 o ran Lloegr | 30 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 87(1)(b) a (4) | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 111 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Adran 119 (yn rhannol) | 30 Ionawr 2004 | 2003/3079 (C.117) |
Adran 119 | 1 Ebrill 2004 | 2003/3079 (C.117) |
Adran 135 | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 139(1) yn rhannol o ran Gogledd Iwerddon | 3 Chwefror 2003 | 2003/288 (C.14) |
Yn rhannol, o ran Lloegr | 25 Chwefror 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol, o ran Lloegr | 30 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol, o ran Lloegr | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Adran 139(2) yn rhannol | 3 Chwefror 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol | 25 Chwefror 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol | 1 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Yn rhannol, o ran Lloegr | 6 Hydref 2003 | 2003/366 (C.24) |
Adran 139(3) yn rhannol | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Atodlen 3 | ||
Paragraff 6 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 7 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 53 | 3 Chwefror 2003 | 2003/288 (C.14) |
Paragraff 105 yn rhannol, o ran Lloegr | 30 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 105 yn rhannol, o ran Cymru | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 106 yn rhannol o ran Lloegr | 30 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 106 yn rhannol o ran Cymru | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 110 yn rhannol, o ran Lloegr | 30 Ebrill 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 110 yn rhannol, o ran Cymru | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 118 | 28 Tachwedd 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Atodlen 4 | ||
Paragraff 3 o ran Lloegr | 6 Hydref 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 4(1) | 3 Chwefror 2003 | 2003/288 (C.14) |
Paragraff 4(2) | 25 Chwefror 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 5 yn rhannol, o ran Lloegr | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 5 yn rhannol, o ran Lloegr | 1 Ebrill 2004 | 2003/3079 (C.117) |
Paragraff 10 | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 11 | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 12 (yn rhannol) | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 13 | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |
Paragraff 14 | 1 Mehefin 2003 | 2003/366 (C.24) |