Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2662 (Cy.233)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

12 Hydref 2004

Yn dod i rym

16 Hydref 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas รข pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: