YR ATODLEN

RHAN ITRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

14.

Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol—

(a)

erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (tramgwyddau ynglyn â herwgydio plentyn mewn gofal)21;

(b)

erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â gwarchod plant a gofal dydd)22;

(c)

erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â maethu preifat); neu

(ch)

erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (tramgwyddau ynglyn â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).