2004 Rhif 2697 (Cy.236)
Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671, fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddol (Darpariaethau Amrywiol) 19722, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004, mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 20 Hydref 2004.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson a awdurdodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;
ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 19933;
ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;
ystyr “taten hadyd” (“seed potato”) yw unrhyw daten sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu; ac
ystyr “tatws o wlad Pwyl” (“Polish potatoes”) yw tatws a dyfwyd yng ngwlad Pwyl yn ystod 2003 neu ers hynny.
Hysbysu am fewnforion3
1
Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, fewnforio tatws i Gymru y mae'r person hwnnw'n gwybod eu bod, neu y mae ganddo sail resymol dros amau eu bod, yn datws o wlad Pwyl, oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oedd yn bwriadu cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru, ynghylch ei fwriad i fewnforio'r tatws, ac ynghylch:
a
amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;
b
y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;
c
y defnydd arfaethedig ar y tatws;
ch
yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;
d
rhywogaeth y tatws;
dd
y maint o datws; ac
e
Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
2
I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, ar ôl 30 Ebrill 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 15 Tachwedd 2004 fan bellaf ynghylch—
a
y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;
b
y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru;
c
y defnydd arfaethedig ar y tatws;
ch
yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;
d
rhywogaeth y tatws;
dd
y maint o datws; ac
e
Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “prosesu” (“processing”) yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai ar gyfer manwerthu ai peidio.
Pwerau arolygydd4
1
Nid yw darpariaethau'r erthygl hon yn rhagfarnu o dan ba amgylchiadau y gall arolygydd, yn rhinwedd y prif Orchymyn, arfer y pwerau a roddwyd gan y Gorchymyn hwnnw.
2
Pan fydd ganddo seiliau rhesymol dros amau bod erthygl 3 wedi'i thorri neu'n debygol o gael ei thorri, gall arolygydd, at ddibenion y Gorchymyn hwn, arfer—
a
y pwer a roddwyd gan erthygl 22(1) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten o wlad Pwyl yn blanhigyn a oedd wedi'i lanio neu'n debygol o gael ei lanio yn groes i'r prif Orchymyn; a
b
y pwer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten o wlad Pwyl a oedd yn cael ei chadw mewn mangre neu'n cael ei symud ohoni, neu a oedd yn debyg o gael ei chadw neu ei symud, yn blanhigyn a oedd yn cael ei gadw neu'n cael ei symud o'r fangre yn groes i'r prif Orchymyn.
3
Caiff arolygydd, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn.
4
Bydd i unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd yr erthygl hon effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn, a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1)(b) ac (c) a (6) o'r prif Orchymyn yn gymwys yn unol â hynny.
5
Rhaid ymdrin ag unrhyw bwer sy'n cael ei roi gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn, ac sy'n cael ei arfer yn rhinwedd yr erthygl hon, fel petai'r pwer hwnnw wedi'i arfer o dan y prif Orchymyn, a bydd darpariaethau'r prif Orchymyn (gan gynnwys erthygl 33(1)(c) a (6)) yn gymwys yn unol â hynny.
Tramgwyddau5
1
Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi, yn mynd yn groes i, neu yn methu â chydymffurfio â, gofyniad a geir yn erthygl 3.
2
Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)