2004 Rhif 2915 (Cy.254)
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 20021.
Enwi, cychwyn a chymhwysoI11
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2004.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a hynny yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.
4
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion yn y Gymraeg os yw'r disgyblion hynny yn dilyn y rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”2.
DirymuI22
Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 19973 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (Diwygio) 19984.
DehongliI33
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);
ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru5;
mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf ;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro6;
ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;
ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth;
ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;
ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor olaf mewn blwyddyn ysgol; ac
mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.
2
Mae cyfeiriadau at—
a
yr ail gyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a
b
lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.
3
Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn Rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r Rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r Rhif cyfan nesaf.
4
Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.
Asesu gan athrawonI44
1
Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf (ac eithrio'r pythefnos olaf ohono) yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a threfnu i'r athro gofnodi'r canlyniadau.
2
Diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5.
3
Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.
4
Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5 fydd y cofnod o'r canlyniadau.
5
Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).
Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl pwnc: asesu gan athrawonI55
1
Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoleiddio agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 er mwyn cyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.
2
Yn achos Saesneg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC.
3
Yn achos Cymraeg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, wedi'i phwysoli â'r ffactorau a ganlyn—
TC1 (llafar) 4;
TC2 (darllen) 3; a
TC3 (ysgrifennu) 3.
4
Yn achos mathemateg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC2 (Rhif ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
5
Yn achos gwyddoniaeth, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC1 (ymholiad gwyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.
Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm CenedlaetholI66
1
Mae erthygl 5 i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.
2
Os, yn achos unrhyw bwnc perthansol, nad yw un TC yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5 i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc a'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli yn gysylltiedig ag ef, yn cael ei ddiystyru.
3
Os, yn achos unrhyw bwnc perthnasol, nad yw rhagor nag un TC yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5 i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw ac nid oes lefel cyrhaeddiad i'w benderfynu ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.
Gwerthuso'r Trefniadau AsesuI77
Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).
Pwerau atodol y Cynulliad CenedlaetholI88
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)