xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2915 (Cy.254)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

10 Tachwedd 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2004.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a hynny yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.

(4Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion yn y Gymraeg os yw'r disgyblion hynny yn dilyn y rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

DirymuLL+C

2.  Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(3) a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (Diwygio) 1998(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “a bennir” (“specified”) yw pennu mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan orchymyn adran 108(3)(a) a (b);

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5);

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 97 o'r Ddeddf ;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau a gyhoeddir gan yr Awdurod ac sy'n gosod unrhyw lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, ac sy'n effeithiol yn rhinwedd y gorchymynion adran 108(3)(a) a (b) ar gyfer y pynciau hynny ac sydd mewn grym am y tro(6);

ystyr “gorchmynion adran 108(3)(a) a (b)” (“section 108(a) and (b) orders”) yw gorchmynion a wneir, neu sydd â'r un effaith â phetaent wedi'u gwneud, o dan adran 108(3)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio;

ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth;

ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r tymor olaf mewn blwyddyn ysgol; ac

mae i “ysgol a gynhelir” yr ysytyr a roddir i “maintained school” yn adran 97 o'r Ddeddf.

(2Mae cyfeiriadau at—

(a)yr ail gyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o'r Ddeddf; a

(b)lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.

(3Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn Rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r Rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r Rhif cyfan nesaf.

(4Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Asesu gan athrawonLL+C

4.—(1Rhaid i'r pennaeth drefnu i bob disgybl gael ei asesu gan athro ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf (ac eithrio'r pythefnos olaf ohono) yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a threfnu i'r athro gofnodi'r canlyniadau.

(2Diben yr asesu yw canfod y lefel cyrhaeddiad a gyflawnodd y disgybl ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5.

(3Rhaid i'r disgybl gael ei asesu a rhaid i'r athro gofnodi'r canlyniadau ddim hwyrach na phythefnos cyn diwedd tymor yr haf.

(4Datganiad o bob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyflawni (p'un a bennir y lefel honno mewn perthynas â'r ail gyfnod allweddol gan y gorchymyn adran 108(3)(a) a (b) perthnasol ai peidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, ac eithrio pan fydd erthygl 6(3) yn gymwys, o'i lefel yn y pwnc fel a gyfrifir yn unol ag erthygl 5 fydd y cofnod o'r canlyniadau.

(5Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon caiff athro ystyried canlyniadau unrhyw asesiad blaenorol o'r disgybl (p'un a wnaed ef gan yr athro hwnnnw ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl pwnc: asesu gan athrawonLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoleiddio agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 er mwyn cyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.

(2Yn achos Saesneg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC.

(3Yn achos Cymraeg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd ei lefelau ym mhob TC, wedi'i phwysoli â'r ffactorau a ganlyn—

(4Yn achos mathemateg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC2 (Rhif ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.

(5Yn achos gwyddoniaeth, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC1 (ymholiad gwyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm CenedlaetholLL+C

6.—(1Mae erthygl 5 i fod yn effeithiol mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys mewn perthynas â hwy (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.

(2Os, yn achos unrhyw bwnc perthansol, nad yw un TC yn gymwys i un o'r disgyblion hynny, mae erthygl 5 i fod yn effeithiol fel petai nifer y TCau sy'n gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TCau yn y pwnc a'r TC nad yw'n gymwys, ac unrhyw bwysoli yn gysylltiedig ag ef, yn cael ei ddiystyru.

(3Os, yn achos unrhyw bwnc perthnasol, nad yw rhagor nag un TC yn gymwys i'r disgybl, nid yw erthygl 5 i fod yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw ac nid oes lefel cyrhaeddiad i'w benderfynu ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Gwerthuso'r Trefniadau AsesuLL+C

7.  Rhaid i'r Awdurdod wneud y trefniadau y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn cyflawni'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Pwerau atodol y Cynulliad CenedlaetholLL+C

8.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud y darpariaethau hynny y mae'n ymddangos yn hwylus iddo eu gwneud ac sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau a wneir yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio darpariaethau sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(7) o'r Ddeddf) neu sy'n ychwanegu atynt mewn ffordd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 8 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae'n dirymu ac yn disodoli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol 2.

Mae erthygl 2 yn dirymu Gorchymyn 1997 (fel y'i diwygiwyd).

Mae erthygl 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Gorchymyn.

Mae erthygl 4 yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu gan athro ac mae'n gosod diben y gwaith asesu hwnnw.

Mae erthygl 5 yn gosod y rheolau technegol ar gyfer penderfynu lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn ôl pwnc.

Mae erthygl 6 yn gosod rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig).

Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i werthuso'r trefniadau asesu.

Mae erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu i wneud darpariaeth sy'n ychwanegu mewn ffordd arall at y darpariaethau hynny.

Yr unig newid sywleddol a wna'r Gorchymyn hwn yw nad yw bellach yn gwneud darpariaeth ar gyfer profion disgyblion. Yn unol â hynny, nid ailddeddfir erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997.

(2)

Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen a gyhoeddwyd o dan y teitl “Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru”, ISBN 0750424036.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a chafodd ei enw presennol gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).

(6)

Y Gorchmynion perthnasol ar gyfer yr ail gyfnod allweddol yw O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1154 (Cy. 85) (Saesneg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (Mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (Gwyddoniaeth).