Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2004.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a hynny yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.

(4Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion yn y Gymraeg os yw'r disgyblion hynny yn dilyn y rhaglen astudio o'r enw “Cymraeg Ail Iaith”(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 10.11.2004, gweler ergl. 1(1)

(1)

Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen a gyhoeddwyd o dan y teitl “Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru”, ISBN 0750424036.