Y Diwrnod Penodedig2

11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

a

adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);

b

adran 78 (diogelwch y wlad);

c

adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);

ch

adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);

d

adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);

dd

adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac

e

adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19912 ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 19953 a bennir yn Atodlen 9.