Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004

Y Diwrnod Penodedig

2.  11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

(a)adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);

(b)adran 78 (diogelwch y wlad);

(c)adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);

(ch)adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);

(d)adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);

(dd)adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac

(e)adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1) ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 1995(2) a bennir yn Atodlen 9.