RHAN IIGWEITHFEYDD
Diogelu mordwyo a thraffig awyr, a rheoli sŵn
System rheoli diogelwch weithredol14
1
Rhaid gweithredu tyrbinau gwynt yn unol â system rheoli diogelwch sy'n weithredol at y diben o leihau'r perygl o gael cychod yn taro yn erbyn y tyrrau neu lafnau'r tyrbinau gwynt sy'n cylchdroi, ac at y diben o hwyluso gweithgareddau chwilio ac achub.
2
Rhaid i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau gymeradwyo manylion y system rheoli diogelwch weithredol, ond rhaid i'r system gynnwys—
a
darpariaeth fel bod pob tyrbin gwynt wedi'i farcio ddydd a nos gan ddefnyddio systemau adnabod gweladwy clir;
b
darpariaeth o ran gweithdrefnau cyfathrebu rhwng morwyr mewn trafferth, Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r ystafell reoli ganolog ar gyfer gweithredu'r tyrbinau gwynt pan fydd cwch mewn trafferth;
c
darpariaeth o ran cau un neu fwy o'r tyrbinau gwynt ar unwaith ar gais Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau pan fyddant â'r mwyafrif o le posibl rhwng pwynt isaf y llafnau a lefel y dŵr; ac
ch
darparu ar gyfer ailbrofi'r gweithdrefnau brys ar yr adegau ac mewn modd y mae'n rhesymol i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau ofyn amdanynt.