YR ATODLENNI

ATODLEN 3ADDASU DEDDFIADAU PRYNU GORFODOL A IAWNDAL I GREU HAWLIAU NEWYDD

Deddfiadau iawndal

Addasu Deddf 1965

6.

Addasir darpariaethau canlynol Deddf 1965 (sy'n datgan effaith gweithred unrhan a weithredwyd mewn amgylchiadau amrywiol pan nad oes trawsgludiad gan bersonau sydd â buddiannau yn y tir), sef—

(a)

adran 9(4) (perchenogion yn methu â thrawsgludo);

(b)

paragraff 10(3) o Atodlen 1 (perchenogion ag analluogrwydd);

(c)

paragraff 2(3) o Atodlen 2 (perchenogion absennol a pherchenogion nad oes modd cysylltu â hwy); ac

(ch)

paragraffau 2(3) a 7(2) o Atodlen 4 (tir comin),

er mwyn sicrhau bod yr hawl sydd i'w chaffael yn orfodol wedi'i breinio yn llwyr yn yr awdurdod caffael, a hynny yn erbyn personau sydd â buddiannau yn y tir y mae'r weithred yn datgan y dylid eu gor-redeg.