YR ATODLENNI

ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL

Mynediad

7.

Rhaid i'r ymgymerwr—

(a)

darparu cyfleusterau rhesymol i'r peiriannydd i gael mynediad at unrhyw weithfeydd perthnasol yn ystod cyfnod yr adeiladu, a hynny ar bob adeg; a

(b)

rhoi'r holl wybodaeth y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y peiriannydd iddo, o ran unrhyw waith perthnasol neu'r dull o'i adeiladu.

8.

Rhaid i Network Rail—

(a)

ddarparu cyfleusterau rhesymol i'r ymgymerwr a'i asiantwyr i gael mynediad at unrhyw weithfeydd a wneir gan Network Rail o dan yr Atodlen hon yn ystod cyfnod yr adeiladu, a hynny ar bob adeg; a

(b)

rhoi'r holl wybodaeth y gall fod ei hangen yn rhesymol ar yr ymgymerwr iddo, o ran unrhyw weithfeydd felly neu'r dull o'u hadeiladu.