YR ATODLENNI

ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL

Y pwerau sydd angen cydsyniad Network Rail

2.

(1)

Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau gorfodol a roddir gan neu o dan y Gorchymyn hwn, beidio â chaffael neu ddefnyddio, na chaffael hawliau newydd dros unrhyw eiddo'r rheilffyrdd, oni bai i Network Rail gydsynio i arfer y pwerau hynny.

(2)

Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer y pwerau a roddir gan erthygl 7 na'r pwerau a roddir gan adran 11(3) o Ddeddf 1965 mewn perthynas ag unrhyw eiddo'r rheilffyrdd, oni bai i Network Rail gydsynio i arfer y pwerau hynny.

(3)

Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan neu o dan y Gorchymyn hwn, beidio â gwrthod mynediad i unrhyw eiddo'r rheilffyrdd i gerddwyr nac i gerbydau, oni bai i Network Rail gydsynio i hynny.

(4)

Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer y pwerau a roddir gan adran 271 neu 272 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y'u cymhwyswyd gan Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo'r rheilffyrdd, ond caniateir dargyfeirio'r hawl honno gyda chydsyniad Network Rail.

(5)

Pan ofynnir i Network Rail gydsynio o dan y paragraff hwn, ni chaniateir gwrthod nac oedi rhag cydsynio, a hynny yn afresymol, ond gellir cydsynio yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.