Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.

(2Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau

2.  Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2001(1) fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 2, (ym mharagraff (i)) o'r diffiniad o “pwyllgor ardal” dileer “gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1”;

(b)yn is-baragraff (2)(b) o reoliad 4 mewnosoder ar y diwedd “a'r is-bwyllgorau”;

(c)ym mharagraff (2)(a) o reoliad 8 ar ei ddiwedd dileer “a” a mewnosoder “neu”;

(ch)yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 10 mewnosoder ar y dechrau —

  • yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2;

(d)ym mharagraff (1) o reoliad 14 ar ôl “gyfrifoldeb” mewnosoder —

  • i'r awdurdod lleol (heblaw'r rhai y mae'n rhaid iddynt gael eu cyflawni gan awdurdod cyfan yn unig) neu;

(dd)yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(e)yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly)) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

(f)yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2004