(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Ar ôl i Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) gychwyn yng Nghymru, lluniodd cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol Cymru gynigion ar gyfer gweithredu naill ai trefniadau gweithrediaeth (y mae swyddogaethau penodol yr awdurdodau lleol hynny yn gyfrifoldeb gweithrediaeth odanynt) neu weithredu trefniadau amgen. Yn achos trefniadau gweithrediaeth, rhaid i weithrediaeth yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (4) o Ddeddf 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002 ac yn galluogi awdurdod lleol yng Nghymru, sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, i lunio cynigion i newid y trefniadau gweithrediaeth hynny neu i roi trefniadau amgen yn eu lle. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn galluogi awdurdod lleol, sy'n gweithredu trefniadau amgen i lunio cynigion i newid y trefniadau amgen hynny neu i roi trefniadau gweithrediaeth yn eu lle (rheoliad 2).

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â chynigion penodol, ar gyfer ymgynghori ac ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y cynigion. Mae gofyniad, mewn perthynas â phob cynnig, i'r awdurdod lleol ystyried sut y gall y cynigion fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd mae ei swyddogaethau yn cael eu harfer, gan dalu sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 5 yn nodi pryd y mae angen refferendwm cyn y caiff awdurdod lleol gymryd camau i roi ei gynigion ar waith. Rhaid i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynigion hynny yn gyntaf.

Mae Rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i wybodaeth benodol gael ei hanfon i'r Cynulliad.

Mae Rheoliad 7 yn darparu bod rhaid i gynigion penodol, nad oes angen refferendwm ar eu cyfer, gael eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion. Mae hyn ar yr amod bod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r cynigion hynny yn gyntaf.

Os bydd refferendwm yn gwrthod cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithredu ei drefniadau presennol hyd nes yr awdurdodir ef i weithredu trefniadau eraill neu hyd nes y gwneir yn ofynnol iddo wneud hynny. Os bydd refferendwm yn cymeradwyo cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn y cynigion (rheoliad 8).

Mae Rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad gael ei basio gan awdurdod lleol er mwyn i'r awdurdod hwnnw weithredu trefniadau gwahanol.

Ar ôl gwneud penderfyniad o dan adran 29(1) neu 33(2) o Ddeddf 2000, fel y'i cymhwysir gan reoliad 9, rhaid bod copïau o ddogfen sy'n nodi'r darpariaethau yn y trefniadau arfaethedig ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg drostynt ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol. Ar gyfer cynigion penodol, ac ar gyfer cynigion sydd wedi'u gwrthod drwy refferendwm, rhaid i wybodaeth benodedig gael ei chyhoeddi mewn un neu ragor o bapurau newydd (rheoliad 10).

Mae Rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymgynghori gan awdurdod lleol, at ddibenion rheoliad 3(1), cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.