- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Cyn llunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4), rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ymgynghori â'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol ac â phersonau eraill sydd â buddiant yn yr ardal honno.
(2) Rhaid i gynigion a lunnir o dan reoliad 2(1)(a), (2) neu (4) gynnwys —
(a)unrhyw fanylion am y trefniadau arfaethedig y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu rhoi;
(b)amserlen ynglyn â rhoi'r cynigion ar waith; ac
(c)manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.
(3) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(1)(a) neu (4), rhaid i awdurdod lleol benderfynu —
(a)beth fydd ffurf y weithrediaeth; a
(b)i ba raddau y mae'r swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf 2000 (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth) i fod yn gyfrifoldeb y weithrediaeth(1).
(4) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2(2) neu 2(3), rhaid i awdurdod lleol benderfynu i ba raddau y mae ei swyddogaethau i'w dirprwyo i Fwrdd yr awdurdod(2).
(5) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y byddai'r cynigion, o'u rhoi ar waith, yn debyg o fod o gymorth i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Gweler O.S. 2001/2291 (Cy.179), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/783, 2003/153, 2003/2676 a 2004/3093
Gweler, yn benodol, reoliadau 7 i 11 of O.S. 2001/2284 (fel y'i diwygiwyd).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: