2004 Rhif 3241 (Cy.283)

TIR, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 68(7)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”)1, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrychoedd neu Berthi Uchel (Ffioedd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gŵynion a wneir, mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru2, o dan adran 68 o'r Ddeddf i awdurdod perthnasol3 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Uchafswm rhagnodedig2

Rhaid i'r ffi a bennir gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 68(1)(b) o'r Ddeddf beidio â bod yn fwy na £320.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol ymdrin â chwynion ynghylch gwrychoedd neu berthi uchel sy'n effeithio'n andwyol ar y mwynhad a gaiff cymydog o'i eiddo.

Caiff perchennog neu feddiannydd eiddo domestig wneud cwyn os bod uchder gwrych neu berth a leolir ar dir y mae person arall yn berchen arno neu'n ei feddiannu yn effeithio'n andwyol ar y mwynhad rhesymol a gaiff y perchennog neu'r meddiannydd o'r eiddo hwnnw.

Rhaid gwneud cwyn i'r awdurdod lleol y mae'r tir y mae'r gwrych neu'r berth wedi'u lleoli arno yn ei ardal a rhaid amgáu gyda'r gŵyn ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (yn ddarostyngedig i uchafswm a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â gwrychoedd neu berthi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r uchafswm hwnnw.