- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
8 Rhagfyr 2004
Yn dod i rym
20 Rhagfyr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn gan arfer y pŵ er a roddwyd iddo gan adrannau 79H(1) a (2) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004, a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sydd wedi'u cofrestru fel gwarchodwyr plant neu i ddarparu gofal dydd ar fangre berthnasol yng Nghymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989 ac mae unrhyw gyfeiriadau at adrannau yn cyfeirio at adrannau'r Ddeddf honno;
mae i “gofal dydd” (“day care”) yr un ystyr ag sydd i “day care” yn adran 79A(6);
mae i “gorchymyn costau” (“costs order”) yr un ystyr ag sydd i “costs order” yn Rheoliadau Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Thribiwnlys Safonau Gofal 2002(2);
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ac sydd wedi'i gofrestru o dan adran 79F;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) yw—
os pennwyd swyddfa o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig, y swyddfa honno;
unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw achos arall; ac
ystyr “y Tribiwnlys” (“Rheoliadau Ariannol”) yw'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(3).
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â pherson cofrestredig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at —
(a)rheoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)paragraff â Rhif mewn rheoliad yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw;
(c)is-baragraff â Rhif neu lythyren mewn paragraff yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu'r llythyren honno yn y paragraff hwnnw.
3.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau 4, 5, 6 a 7, atal dros dro gofrestriad unrhyw berson sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy'n darparu gofal dydd os oes sail resymol i'r Cynulliad Cenedlaethol gredu y byddai neu y gallai parhau â'r ddarpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd wneud un neu fwy o'r plant y darperir y gofal ar eu cyfer, neu y gellid darparu'r gofal ar eu cyfer, yn agored i risg o niwed, ac mai at un o'r dibenion a nodir ym mharagraff (2) y gwneir yr atal dros dro.
(2) Dibenion yr atal dros dro yw—
(a)rhoi amser i ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n sail i gred y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)rhoi amser i gymryd camau er mwyn lleihau neu ddileu'r risg o niwed.
4.—(1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn atal cofrestriad unrhyw berson dros dro o dan reoliad 3, bydd cyfnod yr atal dros dro yn dechrau ac yn gorffen ar y dyddiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i'r person cofrestredig o dan reoliad 5.
(2) Ni chaniateir i'r dyddiad a bennir fel y dyddiad y daw'r cyfnod atal dros dro i ben fod yn fwy na 6 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cyfnod.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw'r ffaith bod cofrestriad unrhyw berson wedi'i atal dros dro ar unrhyw adeg yn rhwystro'r Cynulliad Cenedlaethol rhag atal dros dro gofrestriad y person hwnnw ymhellach ar unrhyw adeg, boed hynny yn ystod cyfnod blaenorol o atal dros dro neu ar ôl iddo ddod i ben, a boed hynny ar yr un sail neu ar sail wahanol.
(4) Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer ei bŵ er i atal dros dro gofrestriad person yn y fath fodd fel y byddai effaith hynny yn golygu bod cofrestriad y person hwnnw wedi'i atal dros dro am gyfnod a fyddai'n hwy na chyfanswm o 12 wythnos o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, gan gynnwys unrhyw gyfnod arall pan yr ataliwyd cofrestriad y person hwnnw dros dro, boed hynny ar yr un sail neu ar sail sy'n sylweddol yr un fath.
(5) Bydd y paragraff hwn yn gymwys os oes un neu fwy o'r amgylchiadau a ganlyn yn gymwys ar yr adeg pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei bŵ er i atal dros dro gofrestriad person:
(a)ni chyflawnwyd yr archwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2)(a) eto;
(b)ni chymerwyd yr holl gamau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2)(b) eto; neu
(c)mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu cymryd camau yn erbyn y person cofrestredig o dan adran 79K o'r Ddeddf (gwneud cais i ynad heddwch am gael amddiffyn plant mewn argyfwng) ond ni phenderfynwyd ar y cais eto,
ar yr amod, ym mhob achos, nad oedd yr amgylchiad o dan sylw wedi codi oherwydd i'r Cynulliad Cenedlaethol fethu â chymryd y camau hynny yr oedd yn rhesymol ymarferol iddo eu cymryd.
(6) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir i berson cofrestredig o dan reoliad 5, sy'n gosod cyfnod o atal dros dro na fyddai gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i'w fynnu os nad oedd paragraff (5) yn gymwys, ddatgan y ffaith honno, a rhaid nodi pa un o'r amgylchiadau a geir yn y paragraff hwnnw sy'n gymwys.
(7) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at y sail dros atal dros dro gofrestriad person yn gyfeiriadau at yr amgylchiadau sydd wedi arwain y Cynulliad Cenedlaethol i gredu y byddai caniatáu i'r person hwnnw barhau i ddarparu gofal plant neu ofal dydd yn gadael, neu y gallai adael, un neu fwy o'r plant sy'n derbyn y gofal, neu a allai dderbyn y gofal, yn agored i'r risg o niwed.
5. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliad 6, roi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw atal cofrestriad dros dro a wneir o dan y Rheoliadau hyn i'r person cofrestredig, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn yr atal dros dro.
6.—(1) Gellir rhoi hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn drwy ei draddodi yn bersonol i'r person cofrestredig, ei anfon drwy'r post, wedi'i gyfeirio'n briodol, mewn llythyr cofrestredig neu drwy'r gwasanaeth cofnodi'r dosbarthiad, neu drwy ei drosglwyddo yn electronig.
(2) Bernir y bydd hysbysiad at berson cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyfeirio'n briodol os yw'r llythyr wedi'i gyfeirio at y person cofrestredig yn y cyfeiriad cartref yr hysbysodd y person cofrestredig y Cynulliad Cenedlaethol ohono yn y gorffennol naill ai adeg gwneud cais am gofrestru neu ers hynny.
(3) Trosglwyddir hysbysiad yn electronig at ddibenion paragraff (1) pan gaiff y manylion a gynhwyswyd yn yr hysbysiad eu trosglwyddo o system gyfrifiadurol a weithredir gan y Cynulliad Cenedlaethol i system gyfrifiadurol a weithredir gan y person cofrestredig drwy ddull electronig i unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu'n electronig a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y person hwnnw.
7.—(1) Heb ragfarn i reoliad 4(2), pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi atal dros dro gofrestriad person, rhaid iddo ddiddymu'r atal dros dro ar unrhyw adeg, boed a wnaed cais ysgrifenedig o dan baragraff (2) ai peidio, os na fydd ganddo bellach sail resymol dros gredu bod y rhesymau dros yr atal dros dro yn gymwys.
(2) Caiff person y mae ei gofrestriad wedi'i atal dros dro yn unol â'r Rheoliadau hyn wneud cais ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg i gael diddymu'r atal dros dro.
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu diddymu neu beidio â diddymu'r atal dros dro ar gofrestriad person, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad at y person cofrestredig yn syth ac yn unol â rheoliad 6.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu peidio â diddymu'r atal dros dro ar gofrestriad person, rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (3) gynnwys y rhesymau dros wneud y penderfyniad a manylion am hawl y person cofrestredig i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(5) Bydd unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu'r atal dros dro yn effeithiol o ddyddiad penodol, a rhaid nodi'r dyddiad hwnnw yn yr hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
8.—(1) Caiff person y mae ei gofrestriad wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn—
(a)penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i atal cofrestriad y person hwnnw dros dro;
(b)gwrthodiad y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu'r atal dros dro pan ofynnir iddo wneud hynny yn unol â rheoliad 7(2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mewn apêl o dan baragraff (1), caiff y Tribiwnlys—
(a)cadarnhau penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i atal cofrestriad dros dro neu, yn ôl y digwydd, wrthod diddymu'r atal dros dro;
(b)cyfarwyddo bod yr atal dros dro yn peidio â bod yn effeithiol
ac, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, caiff y Tribiwnlys arfer hefyd ei bŵ er o dan (b) mewn unrhyw achos y mae'n arfer ei bŵ er o dan (a) os yw'n fodlon nad yw amodau'r atal dros dro wedi'u bodloni bellach, a hynny ar adeg gwneud ei benderfyniad.
(3) Os nad yw'r atal cofrestriad person dros dro, y gwnaed apêl yn ei gylch o dan baragraff (1), bellach yn effeithiol:
(a)rhaid i'r Tribiwnlys ddileu'r apêl; a
(b)caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn costau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac maent yn gymwys i bersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd mewn mangre a leolir yng Nghymru. Maent yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru atal dros dro gofrestriad person, ac yn caniatáu hawl i apelio i'r Tribiwnlys a sefydlwyd gan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999. Deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: