ATODLEN 2CYNHWYSION YCHWANEGOL A GANIATEIR A THRINIAETHAU AWDURDODEDIG AR GYFER CYNHYRCHION A DDISGRIFIWYD YN EITEMAU 1 I 7 O ATODLEN 1
1
Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:
a
mêl fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 2001 ynglŷn â mêl23: mewn pob cynnyrch fel amnewidyn cyfan neu rannol ar gyfer siwgrau;
b
sudd ffrwythau: dim ond mewn jam;
c
sudd ffrwythau sitrws: mewn cynhyrchion a gafwyd o fathau eraill o ffrwythau: dim ond mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
ch
suddau ffrwythau coch: dim ond mewn extra jam a weithgynhyrchwyd o egroes, mefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion, eirin a rhiwbob;
d
sudd betys coch: dim ond mewn jam a jelly a weithgynhyrchwyd o fefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion ac eirin;
dd
olewau naws ffrwythau sitrws: dim ond mewn marmalade a jelly marmalade;
e
olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu: mewn pob cynnyrch;
f
hylif pectin: mewn pob cynnyrch;
ff
pilion sitrws: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
g
dail Pelargonium odoratissimum: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly, pan fyddant wedi'u gwneud o gwins;
ng
gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau, fanila ac echdynion fanila: mewn pob cynnyrch;
h
fanilin: mewn pob cynnyrch;
i
unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodwyd eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl24.
2
Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:
a
eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;
b
eu sychrewi;
c
eu dwysáu, i'r graddau ei bod yn dechnegol bosibl;
ch
ac eithrio mewn perthynas â extra jam neu extra jelly, eu sylffito, hynny yw caniateir defnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gyfrwng cymorth i weithgynhyrchu ar yr amod nad yw'r cyfanswm ohono yn uwch na'r uchafswm cynnwys o ran sylffwr deuocsid a bennwyd yng Nghyfarwyddeb 92/2/EC25.
3
Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.
4
Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.