Rheoliad 2(1) a (2)
1. Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:
(a)mêl fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 2001 ynglŷn â mêl(1): mewn pob cynnyrch fel amnewidyn cyfan neu rannol ar gyfer siwgrau;
(b)sudd ffrwythau: dim ond mewn jam;
(c)sudd ffrwythau sitrws: mewn cynhyrchion a gafwyd o fathau eraill o ffrwythau: dim ond mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
(ch)suddau ffrwythau coch: dim ond mewn extra jam a weithgynhyrchwyd o egroes, mefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion, eirin a rhiwbob;
(d)sudd betys coch: dim ond mewn jam a jelly a weithgynhyrchwyd o fefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion ac eirin;
(dd)olewau naws ffrwythau sitrws: dim ond mewn marmalade a jelly marmalade;
(e)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu: mewn pob cynnyrch;
(f)hylif pectin: mewn pob cynnyrch;
(ff)pilion sitrws: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
(g)dail Pelargonium odoratissimum: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly, pan fyddant wedi'u gwneud o gwins;
(ng)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau, fanila ac echdynion fanila: mewn pob cynnyrch;
(h)fanilin: mewn pob cynnyrch;
(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodwyd eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(2).
2. Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:
(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;
(b)eu sychrewi;
(c)eu dwysáu, i'r graddau ei bod yn dechnegol bosibl;
(ch)ac eithrio mewn perthynas â extra jam neu extra jelly, eu sylffito, hynny yw caniateir defnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gyfrwng cymorth i weithgynhyrchu ar yr amod nad yw'r cyfanswm ohono yn uwch na'r uchafswm cynnwys o ran sylffwr deuocsid a bennwyd yng Nghyfarwyddeb 92/2/EC(3).
3. Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.
4. Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.
OJ Rhif L.010, 12/01/2002, t.47.
OJ Rhif L.040, 11/02/1989, t.27.
OJ Rhif L.61, 18.03.95, t.1.