Rheoliad 2(1)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig |
NODIADAU 1. Yn achos cynnyrch a baratowyd o gymysgedd o fathau o ffrwythau, rhaid darllen colofn 2 o'r Atodlen hon fel petai'r meintiau isaf a bennir ar gyfer y gwahanol fathau o ffrwythau a grybwyllir neu y cyfeirir atynt ynddi wedi'u lleihau yn gymesur â meintiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd. 2. Rhaid bod y cynhyrchion a ddisgrifir yn yr Atodlen hon yn cynnwys 60% neu fwy o sylwedd sych toddadwy, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20oC, ac eithrio — (a) y cynhyrchion hynny lle mae'r siwgrau ynddynt wedi'u hamnewid yn gyfan gwbl neu'n rhannol â melysyddion a ganiateir; (b) y cynhyrchion hynny sydd wedi'u labelu “reduced sugar” y caniateir iddynt gynnwys nid llai na 25% ac nid mwy na 50% o sylwedd sych toddadwy; (c) y cynhyrchion hynny a ddisgrifiwyd yn eitemau 8 i 11 y mae'n rhaid iddynt gynnwys 65% neu fwy o sylwedd sych toddadwy. 3. Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “X” yn eitem 8 — (a) enw math penodol o ffrwyth; neu (b) y geiriau “mixed fruit”; neu (c) y gair “fruit” a mynegiad o'i flaen o nifer y mathau o ffrwyth a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yr eitem. 4. Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen hon fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle “Y” yn eitem 10 — (a) enw math penodol o ffrwyth; neu (b) y geiriau “mixed fruit”. | |
1. Jam | Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o siwgrau, mwydion neu biwrî neu'r ddau o un math o ffrwyth neu fwy a dŵ r, yn y fath fodd â bod maint y mwydion ffrwythau neu'r piwrî ffrwythau neu'r ddau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na — (i) 250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins, (ii) 150 gram yn achos sinsir, (iii) 160 gram yn achos afalau cashiw, (iv) 60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, (v) 350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill. |
2. Extra Jam | Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o
ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos. A maint y mwydion ffrwythau neu biwrî ffrwythau neu'r ddau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na — (i) 350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins, (ii) 250 gram yn achos sinsir, (iii) 230 gram yn achos afalau cashiw, (iv) 80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, (v) 450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill. |
3. Jelly | Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu'r ddau ohonynt yn y fath fodd â bod maint y sudd ffrwythau neu'r echdynnyn ffrwythau dyfrllyd neu'r ddau ohonynt sy'n cael ei ddefnyddio am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na — (i) 250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins, (ii) 150 gram yn achos sinsir, (iii) 160 gram yn achos afalau cashiw, (iv) 60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, 4(v)350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill. Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd. |
4. Extra Jelly | Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill i weithgynhyrchu extra jelly: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dŵ r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos. A maint y sudd ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, a defnyddiwyd am bob cilogram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na — (i) 350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins, (ii) 250 gram yn achos sinsir, (iii) 230 gram yn achos afalau cashiw, (iv) 80 gram ar gyfer ffrwyth y dioddefaint, (v) 450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill. Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dŵ r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd. |
5. Jelly marmalade | Cyfansoddiad marmalêd, fel y'i disgrifir isod ond lle nad yw'r cynnyrch yn cynnwys unrhyw sylwedd annhoddadwy ac eithrio o bosibl meintiau bach o bilion sydd wedi'u sleisio'n fân. |
6. Marmalade | Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o ddŵ r, siwgrau a mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu unrhyw gyfuniad ohonynt, a phob un o'r rheini wedi'u sicrhau o ffrwythau sitrws, yn y fath fodd â bod maint y ffrwythau sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 200 gram, y mae nid llai na 75 gram ohono wedi'i gael o'r endocarp. |
7. Sweetened chestnut purée | Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, o ddŵ r, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, yn y fath fodd â bod maint y castanau a wnaed yn biwrî ac a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 380 gram. |
8. X curd | Emwlsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), ac unrhyw gyfuniad o ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd — (a) â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram; (b) â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac (c) â bod maint y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, ac olew naws y ffrwythau yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch gorffenedig. |
9. Lemon cheese | Bwyd sy'n cydymffurfio â'r disgrifiad yn eitem 8 uchod sy'n briodol ar gyfer ceuled lemon. |
10. Y flavour curd | Emylsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, ŵ y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), a deunydd cyflasu gyda chynhwysion eraill neu hebddynt, yn y fath fodd — (a) â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram; (b) â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd yn gyfryw ag y bydd pob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig yn cynnwys nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac (c) â bod maint y deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch. |
11. Mincemeat | Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd — (a) â bod maint y ffrwythau gwinwydd a'r pilion sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 300 gram, y mae nid llai na 200 gram ohono yn cynnwys ffrwythau gwinwydd; a (b) â bod maint y siwet neu'r braster cyfatebol a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 25 gram. At ddibenion y cofnod hwn ystyr “cyfryngau melysu” yw — |
Rheoliad 2(1) a (2)
1. Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:
(a)mêl fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 2001 ynglŷn â mêl(3): mewn pob cynnyrch fel amnewidyn cyfan neu rannol ar gyfer siwgrau;
(b)sudd ffrwythau: dim ond mewn jam;
(c)sudd ffrwythau sitrws: mewn cynhyrchion a gafwyd o fathau eraill o ffrwythau: dim ond mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
(ch)suddau ffrwythau coch: dim ond mewn extra jam a weithgynhyrchwyd o egroes, mefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion, eirin a rhiwbob;
(d)sudd betys coch: dim ond mewn jam a jelly a weithgynhyrchwyd o fefus, mafon, gwsberins, cyrains cochion ac eirin;
(dd)olewau naws ffrwythau sitrws: dim ond mewn marmalade a jelly marmalade;
(e)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu: mewn pob cynnyrch;
(f)hylif pectin: mewn pob cynnyrch;
(ff)pilion sitrws: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly;
(g)dail Pelargonium odoratissimum: mewn jam, extra jam, jelly a extra jelly, pan fyddant wedi'u gwneud o gwins;
(ng)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau, fanila ac echdynion fanila: mewn pob cynnyrch;
(h)fanilin: mewn pob cynnyrch;
(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodwyd eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(4).
2. Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:
(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;
(b)eu sychrewi;
(c)eu dwysáu, i'r graddau ei bod yn dechnegol bosibl;
(ch)ac eithrio mewn perthynas â extra jam neu extra jelly, eu sylffito, hynny yw caniateir defnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gyfrwng cymorth i weithgynhyrchu ar yr amod nad yw'r cyfanswm ohono yn uwch na'r uchafswm cynnwys o ran sylffwr deuocsid a bennwyd yng Nghyfarwyddeb 92/2/EC(5).
3. Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.
4. Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.
OJ Rhif L.010, 12/01/2002, t.47.
OJ Rhif L.040, 11/02/1989, t.27.
OJ Rhif L.61, 18.03.95, t.1.