2. Daw darpariaethau canlynol i rym ar 30 Mawrth 2004 —
(a)adrannau 71 i 73, 75 i 77, 79, 81 i 83 , 85 i 91, 93 i 103, 105 i 109, 111 i 113, 159, 163, 173, Atodlenni 6 a 7;
(b)adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac
(c)yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn —
(i)adrannau 148, 149, 150, 155, 157 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8 i 13 o Atodlen 10, 158, 175, 176 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13, Atodlen 9, paragraffau 8 i 13 o Atodlen 10, Atodlen 11 a pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13;
(ii)is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13;
(iii)is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987;
(iv)i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym —
(i)mewn perthynas ag unrhyw achos y mae is-baragraff (ii), (iii), (iv) neu (vi) yn gymwys iddo, ni fydd unrhyw effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 151 a bydd Gorchymyn Taliadau Gwasanaeth (Amcangyfrifon ac Ymgynghori) 1988(1) yn parhau'n gymwys;
(ii)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004;
(iii)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Deddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004;
(iv)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991(2), Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(3) neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(4) cyn 31 Mawrth 2004;
(v)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract —
(a)y bwriedir ei wneud ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004; ac
(b)sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;
(vi)mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.
O.S. 1991/2680, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1993/3228, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.
O.S. 1995/201, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.