16.—(1) Cyn dyddiad y gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir i bob un o'r partïon —
(a)copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddigon o ddarnau o'r ddogfen neu fanylion amdani) ac y mae wedi'i chael gan unrhyw barti arall wedi'i chael (heblaw dogfen sydd eisoes ym meddiant y person hwnnw neu un y darparwyd copi ohono i'r person hwnnw o'r blaen); a
(b)copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaethpwyd gan y tribiwnlys, neu ar ei gyfer, at ddibenion yr achos.
(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi cael dogfen berthnasol neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddigon o ddarnau ohono neu ddigon o fanylion amdani, yna oni bai —
(a)bod y person hwnnw yn cytuno i'r gwrandawiad barhau; neu
(b)bod y tribiwnlys yn barnu bod gan y person hwnnw ddigon o gyfle i drin y materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ei farnu y bydd yn rhoi digon o gyfle i'r person drin y materion hynny.