ATODLEN 2Manylion Ceisiadau
Rhyddfreinio ac estyn lesoedd
1.
(1)
Copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â'r rhyddfraint.
(2)
Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad ac unrhyw landlord canol.
(3)
Enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â morgais neu unrhyw arwystl arall dros fuddiant yn y tir a'r adeiladau sy'n destun y cais ac a ddelir gan y rhydd-ddeiliad neu unrhyw landlord arall.
(4)
Pan wneir cais o dan adran 21(2) o'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 196716, enw a chyfeiriad yr is-denant, a chopi o unrhyw gytundeb ar gyfer yr is-denantiaeth.
(5)
Pan wneir cais o dan adran 13 o Ddeddf 198717, y dyddiad pryd cafodd y landlord yr eiddo a thelerau'r caffael gan gynnwys unrhyw symiau a dalwyd.