- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig, yn ymwneud â'r swm y gellir gofyn i denantiaid ei gyfrannu, trwy dalu taliadau gwasanaeth, ac â'r costau perthnasol a dynnir gan landlordiaid wrth gyflawni gwaith neu o dan gytundebau penodol. Onid yw landlord yn cydymffurfio â gofynion ymgynghori rhagnodedig neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau o dan adran 20(9) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 o ran pob un neu unrhyw un o'r gofynion hynny, mae cyfraniadau a wneir gan denantiaid fel taliadau gwasanaeth yn gyfyngedig.
Mae rheoliad 3(1) yn esemptio'r canlynol o'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau sydd am gyfnod o fwy na 12 mis (“cytunebau hir-dymor cymwys”):
(a)contractau cyflogaeth;
(b)cytundebau rhwng corff rheoli tenantiaid neu gorff rheoli hyd braich (corff a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) ac awdurdod tai lleol o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (cytundebau rheoli);
(c)cytundebau rhwng cwmni daliannol ac unrhyw un o'i is-gwmnïau neu rhwng dau neu fwy o is-gwmnïau'r un cwmni daliannol; ac
(ch)cytundebau sydd am dymor o ddim mwy na phum mlynedd ac sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu dir ac adeiladau eraill nad oes iddynt denantiaid pan wneir y cytundeb.
Mae rheoliad 3(2) yn darparu nad yw cytundeb yr ymrwymir iddo cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn gytundeb hir-dymor cymwys hyd yn oed os oes mwy na 12 mis o gyfnod y cytundeb yn weddill pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae rheoliad 3(3) yn darparu nad yw cytundeb am gyfnod o fwy na 12 mis yn gytundeb hir-dymor cymwys os yw'n darparu ar gyfer cyflawni gwaith ar adeilad neu ar unrhyw dir ac adeiladau eraill (“gwaith cymwys”) y cyhoeddwyd hysbysiad yn eu cylch yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (“ y Cyfnodolyn Swyddogol”) (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Mae rheoliad 4 yn gosod terfyn o £100 mewn unrhyw gyfnod cyfrifydda (fel y'i diffinnir yn rheoliad 4(2)) mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth y gellir eu priodoli i ddarparu nwyddau neu wasanaethau, neu i gyflawni gwaith, o dan gytundeb hir-dymor cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 5 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.
Mae rheoliad 5 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n gymwys i gytundebau hir-dymor cymwys. Ac eithrio yn yr achosion a grybwyllir isod, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a bennir yn Atodlen 1. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny, os (i gydymffurfio â rheolau caffael yr UE) bydd yn ofynnol cyhoeddi yn y Cyfnodolyn Swyddogol hysbysiad ynghylch nwyddau neu wasanaethau sydd i'w darparu neu waith sydd i'w gyflawni o dan y cytundeb, y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 2. Os bydd person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (hawl i brynu) (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â'r hawl i brynu sydd wedi'i chadw o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu â'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996) dim ond y gofynion ymgynghori hynny sy'n gymwys i'r cytundeb ac sydd, ar ôl y degfed diwrnod ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd eisoes â hwy, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.
Mae rheoliad 6 yn gosod terfyn o £250 ar gyfraniad tenant mewn perthynas â thaliadau gwasanaeth sydd wedi'u priodoli i waith cymwys. Bydd y terfyn hwnnw'n gymwys onid yw'r landlord yn cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori a ragnodir gan reoliad 7 neu'n cael gollyngiad gan dribiwnlys prisio lesddaliadau mewn perthynas â phob un neu unrhyw rai o'r gofynion hynny.
Mae rheoliad 7 yn ymdrin â'r gofynion ymgynghori sy'n berthnasol i waith cymwys o'r math a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw. Mewn perthynas â gwaith cymwys arall, mae gofynion ymgynghori o dan adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, fel yr oedd yn union cyn yr amnewid a wnaed gan adran 151 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).
Mae paragraff (1) o reoliad 7 yn ymwneud â gwaith cymwys sy'n destun cytundeb hir-dymor cymwys. Yn ddarostyngedig i eithriad y mae paragraff (5) yn darparu ar ei gyfer (“eithriad paragraff (5)”), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau.
Mae paragraffau (2) at (4) yn ymwneud â gwaith cymwys nad yw'n destun cytundeb hir-dymor cymwys.
Mae paragraff (2) yn ymwneud â'r gofynion ymgynghori mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo. Yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori mewn achos o'r fath yw'r rhai a nodir yn Atodlen 3 (yr un gofynion ag sy'n gymwys i waith cymwys o dan gytundebau hir-dymor cymwys).
Mae paragraff (3) yn gymwys os yw gwaith cymwys yn cael ei gyflawni:
(a)ar neu ar ôl y dyddiad sydd ddau fis ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym o dan gytundeb yr ymrwymir iddo cyn daw'r Rheoliadau hyn i rym; neu
(b)o dan gytundeb am fwy na 12 mis os cyhoeddir hysbysiad o'r gwaith hwnnw yn y Cyfnodolyn Swyddogol cyn daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae paragraff (4) yn gymwys i achosion nad yw paragraff (3) yn gymwys iddynt. Pan yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad o'r gwaith cymwys yn y Cyfnodolyn Swyddogol (er mwyn cydymffurfio â rheolau caffael yr UE), ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai sydd wedi'u nodi yn Rhan 1 o Atodlen 4. Pan nad yw'n ofynnol cyhoeddi hysbysiad yn y Cyfnodolyn Swyddogol, ac yn ddarostyngedig i eithriad paragraff (5), y gofynion ymgynghori yw'r rhai a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.
Mae eithriad paragraff (5) yn gymwys pan yw person yn mynd yn denant o ganlyniad i arfer yr hawl i gael les hir wedi'i roi iddo o dan adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (gan gynnwys yr adran honno fel y'i cymhwysir mewn perthynas â hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o'r Ddeddf honno neu'r hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996). Yn yr achos hwnnw, ac mewn perthynas â'r person hwnnw ac â'r gwaith cymwys penodol hwnnw, dim ond y gofynion ymgynghori hynny, sy'n gymwys i'r gwaith hwnnw ac sydd, ar ôl y degfed dydd ar hugain o denantiaeth y person hwnnw, yn dal yn ofynion na chydymffurfiwyd â hwy eisoes, y mae'n ofynnol i landlord gydymffurfio â hwy.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: