Search Legislation

Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adran 20” (“section 20”) yw adran 20 (cyfyngu ar daliadau gwasanaeth: gofynion ymgynghori) o Ddeddf 1985;

ystyr “adran 20ZA” (“section 20ZA”) yw adran 20ZA (gofynion ymgynghori: atodol) o'r Ddeddf honno;

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â hysbysiad, yw'r cyfnod o 30 diwrnod yn cychwyn ar ddyddiad yr hysbysiad;

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985(1);

ystyr “hysbysiad cyhoeddus” (“public notice”) yw hysbysiad a gyhoeddir yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gwaith Cyhoeddus 1991(2), Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(3)) neu Reoliadau Contractau Cyflenwad Cyhoeddus 1995(4);

ystyr “materion perthnasol” (“relevant matters”), mewn perthynas â chytundeb a gynigir, yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu'r gwaith sydd i'w gyflawni (yn ôl y digwydd) o dan y cytundeb;

ystyr “person a enwebwyd” (“nominated person”) yw person y cynigir ei enw mewn ymateb i wahoddiad a wneir fel y crybwyllir ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 neu baragraff 1(3) o Ran 2 o Atodlen 4; ac ystyr “enwebiad” (“nomination”) yw unrhyw gynnig o'r fath;

ystyr “perthynas agos” (“close relative”), mewn perthynas â pherson, yw priod neu un sy'n cyd-fyw â'r person hwnnw, rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, mab, mab-yng-nghyfraith, merch, merch-yng-nghyfraith, brawd, brawd-yng-nghyfraith, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith, llysriant, llysfab neu lysferch y person hwnnw;

ystyr “tenant RTB” (“RTB tenant”), mewn perthynas â landlord, yw person sydd wedi mynd yn denant i'r landlord yn rhinwedd adran 138 o Ddeddf Tai 1985(5) (dyletswydd landlord i drosglwyddo rhydd-ddaliad neu roi les), adran 171A o'r Ddeddf honno (achosion lle y cadwyd yr hawl i brynu), neu adran 16 o Ddeddf Tai 1996(6) (hawl tenant i gaffael annedd)(7) o dan brydles y mae ei thelerau'n cynnwys gofyniad bod y tenant yn ysgwyddo rhan resymol o'r costau hynny a dynnir gan y landlord ac y sonnir amdanynt ym mharagraffau 16A i 16D o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno (taliadau gwasanaeth a chyfraniadau eraill sy'n daladwy gan y tenant)(8));

ystyr “tenantiaeth RTB” (“RTB tenancy”) yw tenantiaeth tenant RTB;

ystyr “un sy'n cyd-fyw” (“cohabitee”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)

person o'r rhyw arall sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n ŵ r neu'n wraig iddo; neu

(b)

person o'r un rhyw sy'n byw gyda'r person hwnnw mewn perthynas y mae iddi'r un nodweddion ag sydd i'r berthynas rhwng gŵ r a gwraig;

(2At ddibenion unrhyw amcangyfrif sydd i'w roi gan y landlord ac y mae unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn ei wneud yn ofynnol—

(a)cynhwysir treth ar werth lle y bo'n gymwys; a

(b)pan fo a wnelo'r amcangyfrif â chytundeb a gynigir, tybied mai dim ond gyda threigl amser y bydd y cytundeb yn dod i ben.

(2)

O.S. 1991/2680, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1993/3228, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 1995/201, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

Cymhwysir adran 138 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) mewn perthynas ag adran 171A gan adran 171C. Mewnosodwyd adrannau 171A and 171C gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63), adran 8. Gweler hefyd Orchymyn Tai (Estyn yr Hawl i Brynu) 1993 (O.S. 1993/2240) a Rheoliadau Tai (Cadw'r Hawl i Brynu) 1993 (O.S.1993/2241). Cymhwysir adran 138 mewn perthynas ag adran 16 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) gan adran 17 o'r Ddeddf honno. Gweler hefyd Reoliadau Tai (Hawl i Gaffael) 1997 (O.S. 1997/619).

(8)

Gweler hefyd adran 139 a Rhannau 1 and 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1985. Mewnosodwyd paragraffau 16A i 16D yn Rhan 3 o Atodlen 6 gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 4(4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources