Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(1) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol —
“2. Mae arolygiadau i'w cynnal —
(a)o fewn chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf, neu
(b)os nad oes arolygiad wedi bod, o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol —
(i)dyddiad unrhyw asesiad neu arolygiad a gyflawnwyd o dan adran 9(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);
(ii)dyddiad sefydlu sefydliad sy'n darparu'r addysg a hyfforddiant sydd i gael eu harolygu; neu
(iii)1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf.”.
(3) Yn rheoliad 3 —
(a)yn lle'r Rhif “55” rhowch y Rhif “70”, a
(b)dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw”.
(4) Yn rheoliad 4(1) —
(a)yn lle'r Rhif “40” rhowch y Rhif “50”, a
(b)dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith” a'r geiriau “(yn y naill achos neu'r llall)”.