Y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir mewn refferendwm
3.—(1) Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o faer a chabinet(1), bydd y datganiad a ddaw o flaen y cwestiwn (“y datganiad”) a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1 o'r Rheoliadau hyn.
(2) Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o faer a rheolydd y cyngor(2), bydd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 2 o Ran I o Atodlen 1.
(3) Os yw'r cynigion y cynhelir refferendwm yn eu cylch yn ymwneud â gweithrediaeth o arweinydd a chabinet(3), bydd y datganiad a'r cwestiwn a ofynnir yn y refferendwm hwnnw ar y ffurf a bennir ym mharagraff 3 o Ran I o Atodlen 1.
Gweler adran 11(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gweler adran 11(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gweler adran 11(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.