ATODLEN 2MATERION SY'N BERTHNASOL I DREULIAU REFFERENDWM
1.
(a)
Hysbysebion o unrhyw fath (beth bynnag fo'r cyfrwng).
Treuliau ar gyfer hysbysebion megis ffioedd asiantaethau, costau dylunio, a chostau eraill parthed paratoi, cynhyrchu, dosbarthu neu dryledu'r hysbysebion neu unrhyw beth sy'n ymgorffori'r hysbysebion hynny mewn modd arall ac a fwriedir ar gyfer eu dosbarthu at y diben o'u tryledu.
- (a)
Deunyddiau heb eu gofyn a gyfeirir at etholwyr (p'un ai ydynt wedi eu cyfeirio atynt yn ôl eu henwau neu y bwriedir eu danfon i aelwydydd mewn unrhyw ardal neu ardaloedd neilltuol).
- (a)
Mae treuliau ar gyfer deunyddiau o'r fath yn cynnwys y costau dylunio a chostau eraill parthed paratoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunyddiau o'r fath (gan gynnwys cost eu postio).
- (a)
Unrhyw ddeunyddiau o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 5(1) o'r Rheoliadau hyn.
- (b)
Ymchwil y farchnad neu ganfasio a gynhelir at y diben o ganfod bwriadau pleidleisio.
- (c)
Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau parthed cynadleddau i'r wasg neu drafodion eraill gyda'r cyfryngau.
- (d)
Cludo (drwy ba ddull bynnag) pobl i unrhyw le neu lefydd gyda'r bwriad o ennill cyhoeddusrwydd o ran ymgyrch sy'n ymwneud â'r refferendwm.
- (a)
Bydd y treuliau ar gyfer cludo'r bobl hyn yn cynnwys y gost o hurio math neilltuol o gludiant ar gyfer y cyfan neu ran o gyfnod y refferendwm.
- (a)
Ralïau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir er mwyn ennill cyhoeddusrwydd parthed ymgyrch refferendwm neu at ddibenion eraill sy'n ymwneud ag ymgyrch refferendwm.
- (a)
Bydd y treuliau ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn cynnwys costau parthed presenoldeb pobl mewn digwyddiadau o'r fath, hurio adeiladau at ddibenion y digwyddiadau hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.