xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 871 (Cy.86)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

23 Mawrth 2004

Yn dod i rym

5 Ebrill 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2004.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 1988(2).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

2.  Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli), ar ôl y diffiniad o “relevant income” mewnosoder y diffiniad canlynol—

mae “ severe disability element” i'w ddehongli yn unol ag adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002(3);.

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau

3.—(1Mae Rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (2)(e)—

(a)Yn y geiriau cloi, yn lle “£14,200” rhodder “£14,600”;

(b)yn is-baragraff (ii), ar ôl “disability element” mewnosoder “or severe disability element”.

Diwygio Rhan I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

4.—(1Diwygir Tabl A o Ran I o'r prif Reoliadau (addasiadau i ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm 1987(4) at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle “£12,000” rhodder £12,250” ac yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”.

(3Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45 —

(a)ym mharagraff (b), yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “£12,000” rhodder “£12,250”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“GIG”) ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn) i fewnosod ffigur uwch ar gyfer y terfyn incwm perthnasol a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i gael credyd treth gwaith a chredyd treth plant.

Nid oes gan lawer o bersonau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio. Mae'r prif Reoliadau'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm, cyfalaf a gofynion hawlydd (a rhai ei deulu, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Tabl A o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau er mwyn uwchraddio'r terfynau cyfalaf sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau ynghylch peidio â chodi tâl ac ad-daliadau sy'n ymwneud â phersonau sy'n byw yn barhaol mewn gofal preswyl neu mewn cartrefi nyrsio.

(1)

1977 p.49 (“Deddf 1997”); mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17).

Diwygiwyd Adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990 a chan Atodlen 4, paragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).

Adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990 am y diffiniad o “prescribed a “regulations”.

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).