4.—(1) Diwygir Tabl A o Ran I o'r prif Reoliadau (addasiadau i ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm 1987(1) at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle “£12,000” rhodder £12,250” ac yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”.
(3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45 —
(a)ym mharagraff (b), yn lle “£19,500” rhodder “£20,000”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “£12,000” rhodder “£12,250”.