xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
23 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 199(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, “ystyr Deddf 2003” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
2. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod a bennwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2003—
(a)adran 47;
(b)adrannau 70 i 75;
(c)ac eithrio adran 94(6) i (8), y darpariaethau ym Mhennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym(2);
(d)adrannau 109, a 142 i 145;
(e)mewn perthynas â Chymru, adrannau 106, 108, 111, ac adran 196 a Rhan 2 o Atodlen 14 i'r graddau y maent yn berthnasol i adran 31(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r ail orchymyn cychwyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“y Ddeddf”). Mae'n dwyn i rym ar 1 Ebrill 2004 ddarpariaethau penodol y Ddeddf mewn cysylltiad â Chymru.
Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 47 o'r Ddeddf sy'n caniatáu i'r Cynulliad baratoi a chyhoeddi datganiadau o safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer.
Mae Erthygl 2(b) yn cychwyn Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf sy'n darparu i'r Cynulliad gynnal adolygiadau o ddarpariaeth gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer, ac ymchwiliadau i'r ddarpariaeth honno, ac mae'n rhoi i'r Cynulliad hawliau mynediad a phwerau i ofyn am wybodaeth ac esboniadau mewn cysylltiad ag adolygiadau ac ymchwiliadau o'r fath.
Mae Erthygl 2(c) yn cychwyn Pennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf, sy'n darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Erthygl 2(d) yn cychwyn darpariaethau eraill y Ddeddf sy'n ymwneud â Chymru, sef: (i) adran 109, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad ystyried yn benodol yr angen am ddiogelu a hybu hawliau a lles plant wrth arfer ei swyddogaethau rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol; (ii) adran 142, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch ei swyddogaethau rheoleiddo ac arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd; (iii) adran 143, sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad i ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd wrth arfer un o'i swyddogaethau rheoleiddio neu arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd at ddibenion un arall o'r swyddogaethau hynny; (iv) adran 144 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a wneir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a (v) adran 145, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad a'r Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd gydweithredu â'i gilydd.
Mae Erthygl 2(e) yn cychwyn darpariaethau penodol y Ddeddf mewn perthynas â Chymru, sef: (i) adran 106, sy'n egluro'r diffiniad o “independent medical agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000; (ii) adran 108, sy'n diwygio pwerau darpariaethau arolygu Deddf Safonau Gofal 2000; a (iii) adran 111, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau gael eu cyhoeddi yn dilyn arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a restrir yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Ac eithrio lle dangosir hynny, cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2003/3346 ac OS 2004/759 eu cychwyn mewn perthynas â Chymru a Lloegr. Cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2004/288 eu cychwyn mewn perthynas â Lloegr. Cafodd y darpariaethau a gychwynnwyd gan OS 2004/480 (W.49) eu cychwyn mewn perthynas â Chymru.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 2 i 4 | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adrannau 5 i 20 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 22 i 35 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 36 | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adrannau 37 i 39 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 40 | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 41 | 8.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 42 o ran Lloegr | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 43 | 11.3.2004 | 2004/759 |
Adran 44 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 45 a 46 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 48 a 49 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 50(1) (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 50(1) (yn rhannol) | 1.4.2006 | 2004/759 |
Adran 50(2) a (3) | 1.4.2005 | 2004/759 |
Adran 50(4) | 1.4.2006 | 2004/759 |
Adran 50(5) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 51(1) i (3) a (6) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 51(4) | 1.4.2005 | 2004/759 |
Adran 52(1) i (4), (6) a (7) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 52(5) | 1.4.2005 | 2004/759 |
Adrannau 53 i 57 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 60 a 61 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 64 i 68 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 76 i 84 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adrannau 87 i 91 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 102 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 103 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 104 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 106 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 108 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 110 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 111 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 112 o ran Lloegr | 11.3.2004 | 2004/759 |
Adrannau 118 a 119 | 1.6.2004 | 2004/759 |
Adran 120 a 121 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 123 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 124 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 125 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 126 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 127 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 128 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 129 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 130 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 131 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 132 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 133 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 134 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 135 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 136 i 138 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 139 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 140 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 141 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 146 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 147 (yn rhannol) | 8.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol) | 11.3.2004 | 2004/759 |
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 147 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 147 (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 147 (yn rhannol) | 1.6.2004 | 2004/759 |
Adran 148 | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 174 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Adran 175(1) o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Adran 175(1) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 175 o ran Cymru | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 175 o ran Lloegr i'r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 176 o ran Lloegr | 3.2.2004 | 2004/288 |
Adran 176 o ran Cymru | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 177(1) a (2) o ran Lloegr | 3.2.2004 | 2004/488 |
Adran 177(2) o ran Lloegr i'r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 177(3) i (11) o ran Lloegr | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 177(12) o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 178 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 179(1) o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Adran 179(1) o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 179(2) o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Adran 179(2) o ran Cymru | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 180 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 180 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 184 o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Adran 184 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 184 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 184 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Adran 189(1) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Adran 196 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Adran 196 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Adran 196 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Adran 196 (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/759 |
Atodlen 1 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Atodlen 2 | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Atodlenni 3 i 5 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Atodlen 6 | 8.1.2004 | 2003/3346 |
Atodlen 7 o ran Lloegr | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Atodlen 8 | 11.3.2004 | 2004/759 |
Atodlen 9 | ||
Paragraffau 1, 3, 5 i 8 a 31 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.1.2004 | 2003/3346 |
Paragraffau 1, 3, 5 i 8, 1 3 a 31 (yn rhannol) | 8.1.2004 | 2003/3346 |
Paragraffau 16, 23(b) a 27 o ran Lloegr | 11.3.2004 | 2004/759 |
Paragraffau 2,14,16 i 20, 22, 23(a), 25, 29 a 30 | 1.4.2004 | 2004/759 |
Paragraffau 9 a 11 | 1.6.2004 | 2004/759 |
Paragraffau 10, 21, 24, 26 i 28 a 32 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/759 |
Paragraff 12 (yn rhannol) | 11.3.2004 | 2004/759 |
Atodlen 11 | ||
Paragraff 1 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 1 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 2 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 2 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 3(2)(a) a (3) i (5) a 3(1) o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 3(2)(a) a (3) i (5) a 3(1) o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 4 i 6 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 4 i 6 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 7 o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Paragraff 7 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Paragraff 7 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.3.2004 | 2004/288 |
Paragraff 7 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 7 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 8 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 9 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 9 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 10 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 12 a 13 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 13 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 14 i 17 o ran Lloegr | 1.3.2004 | 2004/288 |
Paragraff 20 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 20 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 21(2) a (3) o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 21(3) o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 22 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 22(1) o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 22(2) a 22(3)(a), (5)(b) a (7) i (9) o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 22(8)(b) a (9) o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 23 o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Paragraff 23 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Paragraff 23 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 23 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 24(a) o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 24(a) o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 25 i 27 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 25 i 27 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 26 o ran Lloegr (yn rhannol) | 11.3.2004 | 2004/759 |
Paragraff 36(a) o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 36(a) o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 37 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 37 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 38 o ran Lloegr | 3.2.2004 | 2004/288 |
Paragraff 38 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Paragraff 39 o ran Lloegr (yn rhannol) | 3.2.2004 | 2004/288 |
Paragraff 39 o ran Cymru (yn rhannol) | 28.2.2004 | 2004/480 |
Paragraff 40 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 41 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 42 i 44 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 42 i 44 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 45 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 45 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 46 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 46(1) o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 46(2)(a) a (3)(a) o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 47 i 49 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 47 i 49 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 51 a 52 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 51 i 52 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 53 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 53 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 55 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 55 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 56 i 59 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 56 i 59 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 60 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraff 60 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 61 i 64 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 62 a 63 o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 65 a 67(a) o ran Lloegr | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 65 a 67(a) o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraff 69 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Paragraffau 70 i 74 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Paragraffau 70 i 74 o ran Cymru | 1.4.2004 | 2004/480 |
Atodlen 14 o ran Lloegr (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/288 |
Atodlen 14 o ran Cymru (yn rhannol) | 1.4.2004 | 2004/480 |
Atodlen 14 Rhan 1 | 1.4.2004 | 2004/759 |
2003 p. 43. Rhoddir y pwerau i'r awdurdod priodol. Gweler yn adran 199(2) y diffiniad o “appropriate authority” at ddibenion adran 199(1).
Gweler adran 199(4) o Ddeddf 2003