Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r ail orchymyn cychwyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“y Ddeddf”). Mae'n dwyn i rym ar 1 Ebrill 2004 ddarpariaethau penodol y Ddeddf mewn cysylltiad â Chymru.

Mae Erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 47 o'r Ddeddf sy'n caniatáu i'r Cynulliad baratoi a chyhoeddi datganiadau o safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer.

Mae Erthygl 2(b) yn cychwyn Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf sy'n darparu i'r Cynulliad gynnal adolygiadau o ddarpariaeth gofal iechyd gan gyrff y GIG yng Nghymru ac ar eu cyfer, ac ymchwiliadau i'r ddarpariaeth honno, ac mae'n rhoi i'r Cynulliad hawliau mynediad a phwerau i ofyn am wybodaeth ac esboniadau mewn cysylltiad ag adolygiadau ac ymchwiliadau o'r fath.

Mae Erthygl 2(c) yn cychwyn Pennod 6 o Ran 2 o'r Ddeddf, sy'n darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Erthygl 2(d) yn cychwyn darpariaethau eraill y Ddeddf sy'n ymwneud â Chymru, sef: (i) adran 109, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad ystyried yn benodol yr angen am ddiogelu a hybu hawliau a lles plant wrth arfer ei swyddogaethau rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol; (ii) adran 142, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch ei swyddogaethau rheoleiddo ac arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd; (iii) adran 143, sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad i ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd wrth arfer un o'i swyddogaethau rheoleiddio neu arolygu gofal cymdeithasol a gofal iechyd at ddibenion un arall o'r swyddogaethau hynny; (iv) adran 144 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a wneir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a (v) adran 145, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad a'r Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd gydweithredu â'i gilydd.

Mae Erthygl 2(e) yn cychwyn darpariaethau penodol y Ddeddf mewn perthynas â Chymru, sef: (i) adran 106, sy'n egluro'r diffiniad o “independent medical agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000; (ii) adran 108, sy'n diwygio pwerau darpariaethau arolygu Deddf Safonau Gofal 2000; a (iii) adran 111, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau gael eu cyhoeddi yn dilyn arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio.