RHAN IV

Mynd i mewn i fangreoedd i'w harchwilio20

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau a gafodd eu hawdurdodi'n ysgrifenedig gan Gyngor, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn i fangreoedd y mae'r canlynol yn berchen arnynt neu'n eu rheoli i'w harchwilio:—

a

Byrddau Iechyd Lleol;

b

Ymddiriedolaethau GIG ;

c

awdurdodau lleol;

ch

Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;

d

personau sy'n darparu gwasanaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1977 neu o dan drefniadau o dan adran 28C o'r Ddeddf honno, neu

dd

personau sy'n darparu gwasanaethau peilot o dan gynlluniau peilot a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 2001, neu sy'n darparu gwasanaethau o dan gynllun GFfLl a sefydlwyd o dan Atodlen 8A i'r Ddeddf,

e

personau sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran I o'r Ddeddf; neu

f

personau sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau fel a grybwyllir yn (d) (dd), neu (e).

2

Rhaid rhoi i bob person a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi'i awdurdodi a phan fydd yn ceisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.

3

Ac eithrio pan fydd Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol i'r gwasanaeth iechyd ac er budd y gwasanaeth hwnnw, neu pan fydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff, rhaid i berson a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) beidio â mynnu ei fod yn cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni chafodd y person neu'r corff sy'n berchen arni neu sy'n eu rheoli rybudd rhesymol o'i fwriad.

4

Ni chaiff person a awdurdodwyd gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl —

a

ar ran personau a gyflogir gan unrhyw rai o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraffau 4(a) i (ch); neu

b

gan bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (4)(d) i (e),

heb iddo fod wedi cael caniatâd y bobl hynny'n gyntaf.

5

Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, bydd yn rhaid i Gyngor gadw mewn cof yr angen am sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas claf, ac unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddwyd gan y Cynulliad a phan fydd yn ymarferol gwneud hynny, bydd yn cydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau tebyg yn unol ag unrhyw ddeddfiad.