RHAN IISefydlu Cynghorau ac Aelodau Cynghorau

Datgymhwyso aelodau

9.—(1Ni fydd person yn gymwys i'w benodi'n aelod, ac i fod yn aelod—

(a)os yw ef neu hi yn gadeirydd, yn gyfarwyddwr neu'n aelod o Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, o Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, o Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol, neu o Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;

(b)os cyflogir ef neu hi gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;

(c)os yw ef neu hi'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu os y'i cyflogir gan berson neu gorff, nad yw'n gorff gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf a hynny'n unol â chontract a wnaed rhwng y person neu'r corff hwnnw a'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG berthnasol;

(ch)os yw ef neu hi'n aelod o Gyngor arall; neu

(d)os yw ef neu hi

(i)yn ymarferydd meddygol,

(ii)yn ymarferydd deintyddol,

(iii)yn fferyllydd cofrestredig,

(iv)yn optegydd offthalmig cofrestredig neu optegydd fferyllol o fewn yr ystyr a geir yn Neddf Optegwyr 1989(1);

(v)yn nyrs gofrestredig, yn fydwraig gofrestredig neu'n ymwelydd iechyd cofrestredig, neu, pan fydd Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2) wedi dod i rym, wedi'i gofrestru neu wedi'i chofrestru yn y gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001,

ac yn darparu gwasanaethau fel y cyfryw o fewn ardal y Cyngor, ac eithrio na fydd darpariaethau paragraff (a) yn gymwys i aelod sydd i wasanaethu fel aeold cyswllt a Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â darpariaethua Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aeoldaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(3).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi, ac i fod yn aelod, os yw wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd i'w swydd gael ei dileu, o unrhyw gyflogaeth gyflogedig gydag unrhyw un o'r cyrff canlynol —

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)Awdurdod Iechyd;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(ch)y Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Radiolegol a sefydlwyd gan adran 1 o'r Ddeddf Amddiffyn Rhag Ymbelydredd 1970(4);

(d)Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru;

(dd)y Comisiwn Gwella Iechyd;

(e)Ymddiriedolaeth GIG;

(f)y Bwrdd Ymarfer Deintyddol;

(ff)yr Asiantaeth Diogelu Iechyd(5);

(g)Awdurdod Iechyd Strategol; neu

(ng)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw person yn gymwys o dan baragraff (2), ac ar ôl i nid llai na dwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y'i diswyddwyd fynd heibio, caiff y person hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddiddymu'r datgymhwysiad, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo bod y datgymhwysiad wedi'i ddiddymu.

(4Pan fydd y Cynulliad yn gwrthod cais person i ddiddymu'r datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais arall o fewn dwy flynedd i ddyddiad y cais a wrthodwyd.

(3)

O.S. 2003/149(Cy.19), rheoliad 3(4)(i) ac Atodlen 2 , paragraff 17(a).

(5)

Sefydlwyd gan OS 2003/505