xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 910 (Cy.93) (C.39)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

24 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 105 o Ddeddf Dŵ r 2003(1) (“y Ddeddf”), ar ôl ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chychwyn adran 67 o'r Ddeddf, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.

Y Diwrnod Penodedig

2.—(11 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym —

(a)adran 67 o'r Ddeddf (aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd yng Nghymru);

(b)adran 69 o'r Ddeddf (grantiau ar gyfer gwaith draenio a systemau rhybudd rhag llifogydd);

(c)paragraff 42 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (mân ddiwygiadau canlyniadol) ac adran 101(1) o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef;

(ch)Atodlen 9 i'r Ddeddf (diddymiadau a dirymu), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991(2) ac adran 101(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3); a

(d)adran 75 o'r Ddeddf (estyn pwerau wrth gefn awdurdod gorfodi).

(2Caiff y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) i (d) eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru'n unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 67 o Ddeddf Dŵ r 2003; adrannau 69 a 75 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru; a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i rym.

Mae adran 67 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 16A a 16B newydd yn Neddf yr Amgylchedd 1995. Mae adran 16A newydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed drwy gyfrwng offeryn statudol, i wneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau, i bennu cyfanswm nifer yr aelodau, a'r dull o ddewis a phenodi cadeirydd ac aelodau eraill o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd Cymreig, ac i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfryw ddibenion atodol ag sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 69 yn diddymu adrannau 147 i 149 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 er mwyn dileu unrhyw anheuaeth y gellir talu grantiau draenio tir a rhybudd rhag llifogydd i'r Asiantaeth o dan adran 47 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Mae Adran 75 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵ r 1975 i estyn pwerau wrth gefn yr awdurdod gorfodi os na fydd ymgymerwr cronfa ddŵ r yn cydymffurfio â rhai gofynion.