ATODLEN

Erthyglau 4 a 5

RHAN 1Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod

Trefniadau derbyn — addysg feithrin

Adran 154

Sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir

Adran 156

Ystyr ysgol feithrin ac addysg gynradd

Adran 198

Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd

Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5)

Trefniadau derbyn — addysg feithrin

Atodlen 21

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Paragraff 98(2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym

Paragraff 115(5) ac eithrio is-baragraff (b)

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Diddymiadau

Deddf Addysg 19964, yn adran 4(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,

yn adran 5(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,

yn adran 548(8), paragraff (c),

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19985, yn adran 33(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (b), adran 39.

RHAN 2Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2004

Y ddarpariaeth

Y pwnc

Adran 177

Ystyr “secondary education”

Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod

Diddymiadau

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Diddymiadau

Deddf Addysg 1996, yn adran 2(3)(a) y geiriau “(including vocational, social, physical and recreational training)”.