Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 912 (Cy.95) (C.40)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

24 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adran 198).

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2).

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4.  31 Mawrth 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5.  1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaeth drosiannol — sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir

6.  Er bod adran 154 yn dod i rym, ni fydd y paragraffau (aa) a (d) newydd yn is-adran (1) o adran 28 o Ddeddf 1998 yn gymwys lle mae awdurdod addysg lleol yng Nghymru wedi cymryd penderfyniad cyn 31 Mawrth 2004 i sefydlu ysgol feithrin newydd a gynhelir neu i wneud newid rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.

Darpariaeth drosiannol — trefniadau derbyn ar gyfer addysg feithrin

7.  Er bod paragraff 12(1), (3) i (5) o Atodlen 4 sy'n diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 yn dod i rym, ni fydd y diwygiadau a wneir gan baragraff 12(3), (4) a (5) yn gymwys i flwyddyn ysgol sy'n gynharach na'r flwyddyn ysgol 2004 i 2005 mewn perthynas â derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004

Erthyglau 4 a 5

ATODLEN

RHAN 1Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isodTrefniadau derbyn — addysg feithrin
Adran 154Sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 156Ystyr ysgol feithrin ac addysg gynradd
Adran 198Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5)Trefniadau derbyn — addysg feithrin
Atodlen 21Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 98(2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym
Paragraff 115(5) ac eithrio is-baragraff (b)
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Addysg 1996(4), yn adran 4(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,
yn adran 5(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”,
yn adran 548(8), paragraff (c),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5), yn adran 33(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (b), adran 39.

RHAN 2Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 177Ystyr “secondary education”
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Addysg 1996, yn adran 2(3)(a) y geiriau “(including vocational, social, physical and recreational training)”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004 a 1 Awst 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen —

  • Mae adran 51 ac Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5) yn diwygio adran 98 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Ddeddf 1998) er mwyn egluro mai'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir sy'n gyfrifol am dderbyn neu wrthod plant i'r ysgol ar gyfer addysg feithrin.

  • Mae adran 154 yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1998 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i AALl gyhoeddi cynigion i sefydlu neu i wneud newidiadau rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.

  • Mae adran 156 yn diwygio'r diffiniad o “nursery school” yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), er mwyn darparu bod ysgol a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu addysg i blant rhwng dwy flwydd oed ac oed ysgol gorfodol, yn ysgol feithrin. Gynt yr oedd y diffiniad yn cyfeirio at ysgol a ddefnyddir yn bennaf i ddarparu addysg o'r fath. Mae adran 156 hefyd yn estyn y diffiniad o “primary education” yn adran 2 o Ddeddf 1996 i gynnwys addysg ran-amser sy'n addas i ofynion plant rhwng dwy flwydd oed ac oed ysgol gorfodol. Gynt yr oedd y diffiniad yn cyfeirio at addysg amser llawn yn unig.

  • Mae adran 198 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo lunio cynlluniau i hwyluso trosglwyddo disgyblion o'r naill i'r llall.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen —

  • Mae adran 177 yn estyn y diffiniad o “secondary education” yn adran 2 o Ddeddf 1996 er mwyn cynnwys addysg sy'n cael ei derbyn yn rhannol mewn ysgol ac yn rhannol mewn sefydliad arall neu unrhyw le arall, ac er mwyn ei gwneud yn glir ei bod yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol ac adloniadol. Rhoddir y pŵer hefyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru addasu'r Deddfau Addysg mewn perthynas â phersonau sy'n cael addysg uwchradd yn rhannol mewn ysgol ac yn rhannol mewn sefydliad arall neu gorff arall.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn adran 154 i rym. Ni fydd y gofynion newydd i gyhoeddi cynigion yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau sydd wedi'u cymryd cyn 31 Mawrth 2004.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dwyn i rym y diwygiadau a wnaed i adran 98 o Ddeddf 1998 sy'n ymwneud â'r cyfrifoldeb dros dderbyniadau i ysgol ar gyfer addysg feithrin. Ni chaiff y diwygiadau hyn effaith tan y flwyddyn ysgol 2004-2005.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19(6) (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 27 a 281 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 291 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 414 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 424 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 431 Tachwedd 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 461 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 52 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 641 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 75 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 120(2)1 Awst 20032003/1667
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adran 122 i 1291 Awst 20032003/1667
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn llawn)1 Awst 20032003/1667
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 1401 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 157 i 1741 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 178(1) a (4)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 1851 Medi 20032003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1971 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 1991 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 2031 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 2061 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 2089 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 51 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 49 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15.19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7,19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 31 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 , (yn rhannol),31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 191 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 201 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) ac 2003/1667
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 ( fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (dirymwyd) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources