2004 Rhif 912 (Cy.95) (C.40)
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 20021, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2004.
2
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adran 198).
Dehongli3
1
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982.
2
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig
4
31 Mawrth 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5
1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Darpariaeth drosiannol — sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir6
Er bod adran 154 yn dod i rym, ni fydd y paragraffau (aa) a (d) newydd yn is-adran (1) o adran 28 o Ddeddf 1998 yn gymwys lle mae awdurdod addysg lleol yng Nghymru wedi cymryd penderfyniad cyn 31 Mawrth 2004 i sefydlu ysgol feithrin newydd a gynhelir neu i wneud newid rhagnodedig i ysgol feithrin a gynhelir.
Darpariaeth drosiannol — trefniadau derbyn ar gyfer addysg feithrin7
Er bod paragraff 12(1), (3) i (5) o Atodlen 4 sy'n diwygio adran 98 o Ddeddf 1998 yn dod i rym, ni fydd y diwygiadau a wneir gan baragraff 12(3), (4) a (5) yn gymwys i flwyddyn ysgol sy'n gynharach na'r flwyddyn ysgol 2004 i 2005 mewn perthynas â derbyn plentyn i ysgol a gynhelir ar gyfer addysg feithrin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
ATODLEN
RHAN 1Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod | Trefniadau derbyn — addysg feithrin |
Adran 154 | Sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir |
Adran 156 | Ystyr ysgol feithrin ac addysg gynradd |
Adran 198 | Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 4, paragraff 12(1), (3) i (5) | Trefniadau derbyn — addysg feithrin |
Atodlen 21 | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 98(2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym | |
Paragraff 115(5) ac eithrio is-baragraff (b) | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Addysg 19964, yn adran 4(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”, | |
yn adran 5(1) y geiriau “part-time education suitable to the requirements of junior pupils or”, | |
yn adran 548(8), paragraff (c), | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19985, yn adran 33(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (b), adran 39. |
RHAN 2Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2004
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 177 | Ystyr “secondary education” |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Addysg 1996, yn adran 2(3)(a) y geiriau “(including vocational, social, physical and recreational training)”. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 19(6) (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
Adrannau 27 a 28 | 1 Medi 2003 | |
Adran 29 | 1 Medi 2003 | |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
Adran 41 | 4 Rhagfyr 2003 | |
Adran 42 | 4 Rhagfyr 2003 | |
Adran 43 | 1 Tachwedd 2003 | |
Adran 46 | 1 Rhagfyr 2003 | |
Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 51 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | |
Adran 52 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | |
Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 60 i 64 | 1 Awst 2003 | |
Adran 75 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 119 | 1 Hydref 2002 | |
Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | |
Adran 120(2) | 1 Awst 2003 | |
Adran 121 | 1 Hydref 2002 | |
Adran 122 i 129 | 1 Awst 2003 | |
Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | |
(yn llawn) | 1 Awst 2003 | |
Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 136 i 140 | 1 Medi 2003 | |
Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 157 i 174 | 1 Ionawr 2004 | |
Adran 178(1) a (4) | 1 Awst 2003 | |
Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 181 i 185 | 1 Medi 2003 | |
Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
(yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2003 | |
Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2003 | |
Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Adran 197 | 1 Medi 2003 | |
Adran 199 | 1 Medi 2003 | |
Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | |
Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
Adrannau 202 a 203 | 1 Medi 2003 | |
Adran 206 | 1 Medi 2003 | |
Adran 207 a 208 | 9 Ionawr 2004 | |
Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | |
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | 1 Medi 2003 | |
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 | 9 Ionawr 2004 | |
Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15. | 19 Rhagfyr 2002 | |
Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7, | 19 Rhagfyr 2002 | |
Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | |
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 | 1 Rhagfyr 2003 | |
Paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | |
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7, | 31 Mawrth 2003 | |
Paragraff 8 , (yn rhannol), | 31 Mawrth 2003 | |
Paragraffau 13 i 15, | 31 Mawrth 2003 | |
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | |
Atodlen 19 | 1 Medi 2003 | |
Atodlen 20 | 1 Medi 2003 | |
Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | |
(yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | |
Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | |
(yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 ( fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (dirymwyd) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 ac O.S. 2003/2071.