Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2005

Diwygio'r Rheoliadau i ddarparu penderfyniad carlam ar apêl o dan adran 25(1)(a)

3.  Ar ôl rheoliad 28 o'r Rheoliadau (Hysbysu'r penderfyniad), mewnosoder—

RHAN VAAPÊL YN ERBYN PENDERFYNIAD AWDURDOD PERTHNASOL I BEIDIO Å GWEITHREDU YN UNOL Å CHAIS AM GYFARWYDDYD O DAN ADRAN 25(1)(a) O'R DDEDDF

28A.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i apêl o dan adran 25(1)(a) oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu neu'n mynnu fel arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.

28B.(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar y diwrnod y mae'n cael ffurflen apêl wedi'i chwblhau gan yr apelydd (neu ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl hynny os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith), anfon copi o'r ffurflen honno, ynghyd â manylion am y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth benderfynu'r apêl, i—

(a)yr awdurdod perthnasol;

(b)yr awdurdod mynediad (os yw'n wahanol i'r awdurdod perthnasol); ac

(c)fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf y mae'r ardal y mae'n gweithredu ynddi yn cynnwys y tir y mae apêl yn ymwneud ag ef,

drwy gyfathrebiad electronig neu drosglwyddiad ffacsimili, ac eithrio, pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â'r gofyniad hwn o fewn yr amser penodedig, rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.

(2) Pan fo awdurdod perthnasol yn cael ffurflen a anfonwyd iddo yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo nodi ei ddatganiad o achos a'i anfon (neu, os drwy gwblhau'r rhan berthnasol o'r ffurflen y nodwyd y datganiad o achos, anfon y ffurflen wedi'i chwblhau), i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy gyfathrebiad electronig neu drosglwyddiad ffacsimili erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y daeth y ffurflen i law'r awdurdod perthnasol.

Trefnu gwrandawiad a hysbysu ohono

28C.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y mae'n cael datganiad o achos yr awdurdod perthnasol yn unol â rheoliad 28B(2) neu, pan nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn—

(a)gwneud trefniadau priodol i gynnal gwrandawiad;

(b)hysbysu'r apelydd a'r awdurdod perthnasol o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad drwy alwad ffôn, cyfathrebiad electronig, neges ffacsimili neu bost dosbarth cyntaf; ac

(c)sicrhau, ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, fod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (b), ynghyd â chopi o'r ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân), ar gael i'w harchwilio ar wefan a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol hyd nes bod yr apêl wedi'i phenderfynu.

Bod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo

28D.(1) Y personau sydd â hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad yw'r apelydd a'r awdurdod perthnasol.

(2) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol yn y gwrandawiad, neu gymryd rhan ynddo.

(3) Caiff unrhyw berson a chanddo hawl neu ganiatâd i fod yn bresennol yn y gwrandawiad, neu i gymryd rhan ynddo, wneud hynny'n bersonol neu gael unrhyw berson arall i'w gynrychioli.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

28E.(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, y person penodedig fydd yn penderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

(2) Mae gwrandawiad i fod ar ffurf trafodaeth sy'n cael ei harwain gan y person penodedig ac ni chaniateir croesholi oni fydd y person penodedig yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau archwiliad trylwyr o'r prif bynciau.

(3) Ar ddechrau'r gwrandawiad, rhaid i'r person penodedig, ar ôl iddo gyhoeddi enw'r person penodedig a'r ffaith bod y person penodedig wedi'i benodi, ac ar ôl iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol lofnodi'r ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau (a'i datganiad o achos, os yw'n ddogfen ar wahân) nodi beth, ym marn y person penodedig, yw'r prif bynciau sydd i'w hystyried yn y gwrandawiad ac unrhyw faterion y mae ar y person penodedig angen cael esboniad pellach arnynt oddi wrth unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn y gwrandawiad; ond ni fydd hyn yn atal pynciau eraill rhag cael eu hychwanegu i'w hystyried yn ystod y gwrandawiad nac yn atal unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn y gwrandawiad rhag cyfeirio at bynciau y mae'r person hwnnw yn barnu eu bod yn berthnasol i'r broses o ystyried yr apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd fel y cyfryw gan y person penodedig.

(4) Bydd gan yr apelydd a'r awdurdod perthnasol hawl i roi tystiolaeth lafar, neu i alw person arall i'w rhoi; a chaiff unrhyw berson arall roi, neu alw person arall i roi, tystiolaeth lafar os caniateir iddo wneud hynny gan berson penodedig yn ôl disgresiwn y person penodedig.

(5) Er gwaethaf unrhyw hawl neu ganiatâd o'r fath a bennir ym mharagraff (4), caiff y person penodedig, ar unrhyw bryd yn ystod y trafodion wrthod caniatáu i berson roi tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater arall y mae'r person penodedig yn barnu ei bod neu ei fod yn amherthnasol neu'n ailadroddus.

(6) Pan fo'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth, neu alw unrhyw berson arall i'w rhoi, gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(7) Caiff y person penodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol yn y gwrandawiad, neu sy'n cymryd rhan ynddo, ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael â'r gwrandawiad; a chaiff y person penodedig wrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu ddim ond caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau a bennir gan y person penodedig, ond caiff unrhyw berson o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(8) Caiff y person penodedig—

(a)bwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson a chanddo hawl i gymryd rhan ynddo;

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwad neu dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ddogfen arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau'r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn eu datgelu yn y gwrandawiad. ac

(c)gohirio gwrandawiad ar unrhyw bryd; ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael unrhyw hysbysiad pellach.

Hysbysu o benderfyniad — apelau sy'n cael eu penderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol

28F.  Pan fo gwrandawiad wedi'i gynnal at ddibenion apêl sy'n cael ei phenderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn pen tri diwrnod gwaith ar ôl diwedd y gwrandawiad, hysbysu'r apelydd, yr awdurdod perthnasol ac unrhyw berson arall a gymerodd ran yn y gwrandawiad o'i benderfyniad ar yr apêl drwy anfon atynt gopi o'r ffurflen apêl ddiwygiedig (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân) a phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i arnodi ar y copi hwnnw.

Hysbysu o benderfyniad — apelau sy'n cael eu penderfynu gan berson penodedig

28G.(1) Pan fo gwrandawiad wedi'i gynnal at ddibenion apêl y mae'r pwer i benderfynu'r apêl wedi'i ddirprwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson penodedig, rhaid i'r person penodedig —

(a)ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny, gyhoeddi'r penderfyniad ar y apêl ar ddiwedd y gwrandawiad; a

(b)cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl diwedd y gwrandawiad, hysbysu'r apelydd, yr awdurdod perthnasol, y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw berson arall a gymerodd ran yn y gwrandawiad o'i benderfyniad ar yr apêl drwy anfon atynt gopi o'r ffurflen apêl ddiwygiedig (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân) a phenderfyniad y person penodedig wedi'i arnodi ar y copi hwnnw.

(2) Cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei hysbysu o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod copi o'r ffurflen apêl ddiwygiedig (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân) ar gael i'w harchwilio ar y wefan a gynhelir neu a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gyfnod o 3 mis..