Diwygiadau i Reoliadau 2002: cyfranogiad y cyhoedd

3.—(1Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002, mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:

(2Yn rheoliad 10 o Reoliadau 2002, mewnosoder ar ôl paragraff (11)—

(12) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod cyfleoedd cynnar ac effeithiol yn cael eu rhoi i'r cyhoedd i gymryd rhan wrth baratoi ac addasu neu adolygu unrhyw gynllun neu raglen y mae'n ofynnol eu llunio o dan baragraff (3), yn unol â pharagraffau (13) a (14).

(13) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)sicrhau bod y cyhoedd yn cael ei hysbysu, p'un ai drwy hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill megis cyfrwng electronig, ynghylch unrhyw gynigion ar gyfer paratoi cynlluniau neu raglenni o'r fath, neu ar gyfer eu haddasu neu eu diwygio;

(b)sicrhau bod unrhyw wybodaeth am y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac i gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)sicrhau bod cyfle gan y cyhoedd i gyflwyno sylwadau cyn i benderfyniadau ar y cynllun neu'r rhaglen gael eu gwneud;

(ch)cymryd sylw dyladwy o unrhyw sylwadau o'r fath wrth benderfynu; a

(d)ar ôl astudio'r sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd, gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r cyhoedd am y penderfyniadau a wnaed a'r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am y broses o gyfranogiad y cyhoedd.

(14) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei rhoi o dan baragraffau (12) a (13) yn y dull y mae'n ystyried sy'n briodol at ddibenion ei dwyn i sylw'r cyhoedd a rhaid iddo—

(a)peri bod copïau o'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd yn ddi-dâl drwy wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a

(b)pennu mewn hysbysiad ar y wefan honno y trefniadau manwl a wnaed i'r cyhoedd gymryd rhan wrth baratoi, addasu ac adolygu cynlluniau neu raglenni, gan gynnwys

(i)y cyfeiriad lle mae'n rhaid cyflwyno sylwadau, a

(ii)yr amserlenni erbyn pryd y ceir cyflwyno sylwadau, gan ganiatàu digon o amser ar gyfer pob un o'r gwahanol gyfnodau i'r cyhoedd gymryd rhan fel sy'n ofynnol gan baragraffau (12) a (13)..

(3Yn rheoliad 12 o Reoliadau 2002, hepgorer paragraff (9).