Rheoliadau 9(4) a 33(1)

ATODLEN 5Cymeradwyo Labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod

RHAN ICYMERADWYO

1.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw labordy y mae'n barnu ei fod yn addas at ddibenion cynnal profion ar gyfer Mycoplasma o dan y Cynllun Iechyd Dofednod.

2.  Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan baragraff (1) dalu'r ffi gymeradwyo flynyddol, y mae'r manylion amdanynt wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.

3.  Er mwyn sicrhau bod labordai a gymeradwywyd yn parhau'n addas ar gyfer cymeradwyaeth, rhaid i arolygydd gynnal arolygiadau a phrofion sicrwydd ansawdd fel y bo'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

RHAN IIY FFI GYMERADWYO FLYNYDDOL

4.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penderfynu'r ffi gymeradwyo flynyddol ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob labordy am yr eitemau a restrir ym mharagraff 6; a

(b)cyhoeddi'r ffi gymeradwyo flynyddol gyfredol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

5.  Bydd y ffi gymeradwyo flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob labordy a gymeradwyir ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.

6.  Yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4(a) yw —

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —

(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai;

(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli neu weinyddu'r gwaith hwn; a

(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cynnal arolygiadau o labordai;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);

(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r broses o gymeradwyo labordai (gan gynnwys cynnal arolygiadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol.

(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai, gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;

(d)darparu dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i gynnal arolygiadau o sefydliadau, a golchi a smwddio'r dillad amddiffynnol hynny;

(dd)darparu samplau profi sicrwydd ansawdd, asesu'r canlyniadau a rhoi cyngor am y canlyniadau;

(e)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai; ac

(f)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai.