Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gosod gofynion hysbysu penodol ar bersonau sy'n mewnforio i Gymru datws sy'n tarddu o'r Iseldiroedd ac sydd wedi'u tyfu yn ystod 2004 neu'n ddiweddarach (“tatws perthnasol”).

Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n mewnforio tatws perthnasol i Gymru wrth gynnal busnes, roi o leiaf ddau ddiwrnod o hysbysiad o'u mewnforio, mewn ysgrifen, i un o arolygwyr awdurdodedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol hefyd i'r personau hynny roi gwybodaeth arall benodol i arolygydd ynghylch y mewnforio gan gynnwys pryd a ble y bwriedir dod â'r tatws perthnasol i mewn i Gymru (erthygl 3(1)). Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i bersonau a fewnforiodd i Gymru datws hadyd sy'n tarddu o'r Iseldiroedd (“tatws hadyd perthnasol”) ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, ddarparu i arolygydd awdurdodedig wybodaeth benodol sy'n debyg ei natur erbyn 3 Mai 2005 fan bellaf (erthygl 3(2)).

Mae erthygl 4 yn darparu pwerau i arolygwyr awdurdodedig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn a sicrhau cydymffurfedd hefyd â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”). Mae'r rhain yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i datws perthnasol gael eu symud i unrhyw fangre a phwer hefyd i wahardd symud, trin neu ddistrywio'r tatws hynny neu unrhyw gynhwysydd neu becyn (Erthygl 4(3)(a) a (b)). At ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, mae gan arolygwyr bŵer hefyd i fynd i mewn i fangre er mwyn cynnal archwiliadau neu arolygiadau o eitemau penodol a geir yno (Erthygl 4(4)). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan arolygwyr awdurdodedig heb leihau effaith pwerau a roddwyd iddynt gan y prif Orchymyn.

Mae erthygl 5 yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i un o ofynion erthygl 3 neu'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwnnw neu os yw'n fwriadol yn rhwystro arolygydd awdurdodedig neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan arolygydd wrth iddo arfer ei bwerau o dan erthygl 4.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.