xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 118 (Cy.10)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

25 Ionawr 2005

Yn dod i rym

31 Ionawr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 104 o Ddeddf Plant 1989(1), a pharagraff 1(1) o Atodlen 9A iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.

Y rheidrwydd i gofrestru gofal dydd mewn ysgolion o dan Ran XA

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 5, mae'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 yn amgylchiadau a ragnodir at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (esemptio ysgolion penodol).

4.  Yr amgylchiadau a ragnodir yw pan fydd edrych ar ôl plant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt, yn brif bwrpas darparu'r gofal dydd.

Darpariaethau Trosiannol

5.  Os cafodd y gofal dydd y mae rheoliad 4 yn gymwys iddo ei ddarparu am y tro cyntaf yn yr ysgol sydd o dan sylw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac os bydd yn parhau i gael ei ddarparu felly, ni fydd rheoliadau 3 a 4 yn gymwys i'r gofal dydd hwnnw (ac felly ni fydd darparu'r gofal dydd hwnnw, a hynny heb gofrestru, wedi'i wahardd gan adran 79D(5) o'r Ddeddf):—

(a)hyd nes 1 Ebrill 2005 os na chyflwynwyd cais cyflawn am gofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf mewn perthynas â darparu'r gofal dydd hwnnw yn yr ysgol honno cyn 1 Ebrill 2005;

(b)os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, hyd nes y diwrnod y caiff y ceisydd ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef;

(c)os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, ac os penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef oedd ei wrthod neu ei ganiatáu yn amodol, a'r amodau hynny'n rhai nad ydynt oll wedi eu cytuno'n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd nes diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad yr hysbyswyd yr ymgeisydd o'r penderfyniad hwnnw;

(ch)os bydd y ceisydd sydd am gofrestru yn apelio yn erbyn penderfyniad y mae is-baragraff (c) yn gymwys iddo, dyddiad gollwng yr apêl neu, os na chaiff ei ollwng, y dyddiad y caiff yr apelydd ei hysbysu o'r penderfyniad mewn perthynas ag ef;

pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Ionawr 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'n rhaid i bob person sy'n rhoi gofal dydd i blant sy'n iau nag wyth mlwydd oed gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989. Effaith y Rheoliadau hyn fydd ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a oedd gynt yn esempt o'r rheidrwydd cofrestru hwn i wneud felly os prif bwrpas y gofal dydd yw gofalu am blant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt.

Rhaid i ysgolion sydd yn rhoi gofal dydd am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2005 neu ar ôl hynny fod wedi'u cofrestru'n ddarparwyr gofal dydd cyn iddynt agor ar gyfer busnes.

O ran ysgolion a oedd yn darparu gofal dydd cyn 31 Ionawr 2005 ac a fydd yn parhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw, mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau trosiannol hyn, caiff ysgolion felly barhau i ddarparu gofal o'r fath hyd at 1 Ebrill 2005 ac, os ydynt yn gwneud cais i gofrestru cyn y dyddiad hwnnw, cânt barhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw hyd nes y bydd y cais wedi ei benderfynu, neu, os gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei benderfynu neu wedi ei ollwng. Bydd ysgolion sy'n methu â gwneud cais o'r fath cyn 1 Ebrill 2005 yn cyflawni tramgwydd o dan adran 79D(5) o'r Ddeddf os byddant yn parhau i ddarparu gofal dydd ar ôl y dyddiad hwnnw.

(1)

1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys y Ddeddf yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)). Mewnosodwyd Atodlen 9A i'r Ddeddf gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), adran 79 ac Atodlen 3.