Search Legislation

Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1227 (Cy.85)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

26 Ebrill 2005

Yn dod i rym

1 Medi 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 (1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

(3Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:

(a)ysgol yng Nghymru neu Loegr a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig yng Nghymru neu Loegr na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol;

(b)ysgol annibynnol yng Nghymru neu Loegr; neu

(c)sefydliad addysgol tebyg y tu allan i Gymru neu Loegr.

(4Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

ystyr “Rheoliadau 2005 (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005(2);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

ystyr “ysgol” (“school”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni gan awdurdod addysg lleol.

Cymhwyster Prifathrawiaeth

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 5, dim ond os yw'n meddu ar un o'r canlynol y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol:—

(a)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru;

(b)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr(3);

(c)Safon Prifathrawiaeth yr Alban(4);

(ch)y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon (5);

(d)cymhwyster sy'n debyg o ran ei effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005.

(2Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.

Gofyniad bod rhaid meddu ar gymhwyster

4.  Dim ond os yw:

(a)yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig; neu

(b)yn meddu ar gymhwyster sy'n debyg o ran effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005

Gofyniad bod rhaid cofrestru

5.  Dim ond os yw wedi cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (cofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru) (6) y caiff person wasanaethu fel pennaeth ysgol.

Penaethiaid dros dro

6.  Nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth ysgol —

(a)hyd nes y penodir pennaeth, neu

(b)yn ystod absenoldeb pennaeth,

yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Ebrill 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod penaethiaid tro cyntaf ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan awdurdod addysg lleol, ac a benodir yn benaethiaid ar neu ar ôl 1 Medi 2005:

(i)yn meddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, neu'r cymhwyster sy'n cyfateb iddo yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(ii)yn athrawon cymwysedig; a

(iii)wedi'u cofrestru yn athrawon.

Bydd yn ofynnol bod gweithwyr mudol o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir yn meddu ar gymwysterau cyfatebol.

Yn rhinwedd rheoliad 8, nid yw person sy'n cyflawni swyddogaethau pennaeth hyd nes y penodir pennaeth, neu yn ystod absenoldeb pennaeth ('pennaeth dros dro') yn bennaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.

(2)

O.S. 2005/18. Mae hwn yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ynghylch system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd.

(3)

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Prifathrawon) (Lloegr) 2003, (O.S. 2003/3111), yw'r Rheoliadau cyfredol sy'n darparu ar gyfer hyn. Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr yn cael ei ddyfarnu gan y National College for School Leadership Limited.

(4)

Ar hyn o bryd, mae Safon Prifathrawiaeth yr Alban yn cael ei hennill drwy ymgymryd â Chymhwyster yr Alban ar gyfer Prifathrawiaeth.

(5)

Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei ddyfarnu gan yr Uned Hyfforddi Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources