- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Wedi'i wneud
26 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3)(b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”)(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) (Cymru) 2005.
2. 30 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, ddod i rym —
(a)adran 62 (cynllun datblygu lleol), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 63 (gofynion paratoi), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)adran 72 (cyd-gynlluniau datblygu lleol); ac
(ch)adran 73 (eithrio rhai sylwadau).
3. Ar y diwrnod a bennwyd gan erthygl 2, daw effaith darpariaethau canlynol Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(2) i ben o ran Cymru —
(a)adran 12 (paratoi cynllun datblygu unedol);
(b)adran 21 (newid neu ddisodli cynllun datblygu unedol); ac
(c)adran 23B (cynlluniau datblygu unedol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).
4. Mewn perthynas â'r awdurdodau cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a'u hardaloedd —
(a)ni fydd darpariaethau'r Ddeddf a gaiff eu dwyn i rym yn sgil erthygl 2 yn gymwys; ac
(b)bydd darpariaethau Deddf 1990 y daw eu heffaith i ben o dan erthygl 3 yn parhau mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Ebrill 2005
Erthygl 4
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ynys Môn
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau pellach Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”), sef adrannau 62 a 63 (i'r graddau nad ydynt eisoes wedi'u dwyn i rym), 72 a 73, i rym ar 30 Ebrill 2005.
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn gymwys i Gymru'n unig ac yn sefydlu system o gynlluniau datblygu lleol (“cynlluniau”) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I Rhan II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”).
Effaith y Gorchymyn fydd galluogi'r awdurdodau cynllunio lleol hynny sydd wedi mynegi dymuniad i ddechrau gwaith ar baratoi eu cynlluniau i wneud hynny. Yr awdurdodau o dan sylw yw —
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
Cyngor Sir Ddinbych
O ran yr awdurdodau cynllunio lleol eraill yng Nghymru (h.y. y rhai a ragnodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) bydd darpariaethau presennol Deddf 1990 yn parhau mewn grym am y tro.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daeth darpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 sy'n cael eu rhestru yn y Tabl isod i rym ar y dyddiadau a ddangosir yn rhinwedd Gorchmynion a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adran(nau) | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
60 | 14 Gorffennaf 2004 | 2004/1814 (Cy.199) (C.74) |
62(4) a (5)(g) | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
63(3)(a) a (7) | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
75 | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
76(2) (yn rhannol) a (3) (yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
77 | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
78 | 1 Awst 2004 | 2004/1813 (Cy.198) (C.73) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: